Llys Biwmares

Ystafell y llys
Gyferbyn â Chastell Biwmares mae'r Llys, a adeiladwyd ym 1614 ac a adnewyddwyd yn y 19eg ganrif. Yma, gall ymwelwyr gerdded drwy'r ystafell lys fawr hirsgwar, sefyll yn y doc gwreiddiol a gweld ysblander ystafell yr uchel reithgor.
Mae murlun cryptig yn dangos buwch, gydag un ffermwr yn ei thynnu gerfydd ei chyrn, un arall yn eil thynnu wrth ei chynffon - a chyfreithiwr yn ei godro! Cynhaliwyd y brawdlys olaf yma ym 1971.
Rhai o droseddwyr a fu'n sefyll yn y doc yn Llys Biwmares:
- 1742: Lladron Crigyll ger Rhosneigr am ddwyn o longau a ddrylliwyd oddi ar arfordir Ynys Môn.
- 1786: Cafodd Hugh Hughes ei chwipio yn gyhoeddus drwy strydoedd pedair tref ar yr ynys am ddwyn bwyd.
- 1816: Gloddestwyr bwyd o Amlwch gafodd ei cosbi am geisio atal yr allforio ŷd mewn amser o newyn.
- 1910: William Murphy a laddodd ei gariad ar ddydd Nadolig wedi iddi hi ei adael am ddyn arall.
Yn yr hen adeilad hwn gallwch:
- sefyll yn y doc
- dysgu sut mae llys barn yn gweithredu
- clywed am droseddwyr enwocaf Môn
- ymweld ag ystafell y carcharor a dilyn ei gamau i'r doc
- gweld arddangosfa o wisgoedd ac addurndlysau cyfreithiol.