Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Amgueddfa Morwrol Caergybi

Harbwr Caergybi

Byddech yn disgwyl fod gan Ynys Môn, ynys fôr deithio, amgueddfa forwrol. A byddech yn gywir.

Caergybi yw eich cyrchfan, cartref miloedd o chwedlau llongwyr, cyswllt fferi brysur eithriadol gydag Iwerddon, gorsaf fad achub, ac mae gan bron bawb yn y dref ryw gysylltiad â’r môr.

Holwch y deifwyr lleol a soniant wrthych am y cyfoeth o fywyd morol sydd ar gael o amgylch yr ynys. Mae hi’n un o hoff gyrchfannau deifio’r DU. Fe ddywedant wrthych am longddrylliadau hudol, bellach yn cynnal y bywyd morol hwnnw. Yn anffodus trengodd llawer person ar arfordir Gogledd Cymru, ac yn yr amgueddfa forwrol byddwch yn cael eich cyflwyno i chwedlau’r rhai a oroesodd a’r rhai na wnaeth.

Bydd nifer o’r rhai a Achubwyd yn ddyledus am eu bywyd i ddewrion y Bad Achub. Unwaith roedd yr amgueddfa forwrol yn llety i’r orsaf fad achub hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd gan y mudiad annibynnol - Cymdeithas Achub bywyd Ynys Môn. O fewn yr amgueddfa mae casgliad gwych o fodelau o fadau achub Caergybi o 1857 - 1928, a byddwch yn synnu sut yn y byd y bu iddynt ymdopi â Môr Iwerddon.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Harbwr Caergybi hefyd yn darged i Luftwaffe’r Almaenwyr. Fel yr anelai awyrennau bomio’r gelyn am Lerpwl a Swydd Gaerhirfryn, byddai rhai o’r awyrennau ar eu ffordd adref yn targedu llongau’r Llynges Brydeinig a Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd oedd yn llochesu yn Ynys Môn. Mae arddangosfa o Gyrch Awyr Amser Rhyfel o fewn yr amgueddfa.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Beach Road
Caergybi
LL65 1ES
 
Ffon: +44 (0)1407 769745
Facs: +44 (0)1407 769745
 
 

oriau agor

Ar agor o 10am - 4pm Llun i Sul

Nid yw'r amgueddfa ar agor yn ystod misoedd y gaeaf
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :