Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Rhoscolyn

Dim ond 850 milltir i fynd

Mae 2012 yn mynd i fod yn flwyddyn bwysig i gerddwyr, oherwydd dyna pryd y bydd llwybr arfordirol cenedlaethol cyntaf y byd yn agor yn swyddogol.

Llwybr sy’n mynd o gwmpas arfordir gwlad gyfan. Cymru, fel mae'n digwydd.

Gan fod Cymru wedi ei hamgylchynu gan fôr ar dair ochr, mae’n golygu ei bod yn gryn daith – ac yn gryn her. Mae’n daith o 850 milltir gyda golygfeydd godidog di-dor ar hyd yr arfordir. Ac mae 125 milltir o Lwybr Arfordirol newydd Cymru gyfan yn Ynys Môn.

Lansiwyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn 2006. Mae'n mynd yr holl ffordd o gwmpas yr ynys ac mae 95% o’r llwybr mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bydd yn braf gweld gweddill y wlad yn ymuno â ni o’r diwedd, ond gair o rybudd.

Mae pobl yn tueddu i feddwl bod tirwedd Ynys Môn yn eithaf gwastad, ond peidiwch â meddwl y bydd y rhan yma’n haws. Os cerddwch chi ar ei hyd i gyd byddwch wedi dringo tua 4,174 metr, neu 13,694 troedfedd.

Mae hynny’n gyfystyr â cherdded i fyny’r Wyddfa. Dair gwaith a hanner. Efallai y byddai’n well dechrau gyda llwybr arfordirol Ynys Môn cyn mentro ar hyd llwybr gweddill Cymru.

Dylai gymryd tua 12 diwrnod (os ydych yn cerdded yn gymedrol). Neu os ydych awydd taith fwy hamddenol gallwch gerdded y rhan fwyaf gwastad (ceisiwch osgoi Mynydd Caergybi).
Neu byddech yn gallu rhoi cynnig ar un o’r teithiau byr ac amrywiol sy’n cysylltu â’r llwybr arfordirol. Cylchdeithiau a theithiau syth. Teithiau treftadaeth, teithiau bywyd gwyllt a ‘llwybrau geo’ - mae Ynys Môn yn enwog am ei chreigiau.

Ble bynnag ewch chi, bydd rhywbeth i ryfeddu ato.  Mae Don a Mary Verbick o Minnesota wedi teithio ar hyd a lled yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Ond ers cael eu gwahodd i gerdded ar hyd ein llwybr arfordirol yn ystod Gwyliau Cerdded Ynys Môn mae Mary yn dal i sôn am y profiad.

“Roedd yr amser a gawsom yn Ynys Môn yn llawn o ddigwyddiadau gwych,” meddai. “Buom yn cerdded ar hyd clogwyni’r môr, traethau tywod, traethau creigiog, coetiroedd, twyni, corsydd, mynyddoedd, porfa - dw i’n siŵr mod i wedi anghofio rhywbeth! Roeddwn wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o blanhigion, yr adar, y golygfeydd dramatig, y defaid gwlanog, yr awyr diderfyn, y gwynt, y glaw, yr heulwen, sŵn y môr - popeth.”

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr


Grwpiau a theithiau cerdded 
Mae gennych wledd o ddewis pan mae’n dod at grwpiau a theithiau cerdded wedi eu trefnu ar Ynys Món. Chwiliwch ein rhestr digwyddiadau o dan ‘cerdded a theithio’ am wybodaeth bellach.

Cylchgrawn Swn y Môr
Lawr lwythwch Swn y Mór. Cylchgrawn swyddogol yr AHNE a'r Llwybr Arfordirol.


Gwyl Gerdded Ynys Môn
Mae Gwyl Gerdded Ynys Môn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n ffefryn gan ymwelwyr a phobl lleol. 

gwe: Anglesey Walking Festival / Gwŷl Gerdded Ynys Môn


gwybodaeth ddefnyddiol

safleoedd gwe:

Crwydro Môn

Cyngor Sir Ynys Môn - AHNE

Cerddwyr Ynys Môn

Celticos

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :