Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Caiacio o amgylch Ynys Môn

Mentrwch i'r dŵr

Dŵr, dŵr ym mhob man. Gan ei bod yn ynys gyda 125 milltir o forlin does dim prinder lleoedd ym Môn i fwynhau’r holl ddŵr sydd o’i chwmpas.

Mae pobl yn hwylfyrddio, syrffio barcud, caiacio môr, deifio, sgramblo arfordirol. Mae’r rhain oll yn helpu i wneud Ynys Môn yn un brif gyrchfannau’r DU ar gyfer chwaraeon dŵr. Yn wir, rydych yn siŵr o weld mwy o siwtiau gwlyb nag o gestyll tywod ar rai o’n traethau.

Lleoedd fel Rhosneigr, prif gyrchfan chwaraeon dŵr Ynys Môn. Traeth tywod hir gyda’r gwynt yn chwythu o’r gorllewin lle mae Dave “Bucky” Buckland yn cynnig paned o de gynnes a gair o gyngor o’i siop syrffio Funsport. A’r cyn bencampwr Prydeinig Alex Tritten sy’n rhedeg ysgol yn ogystal â’i siop goffi a’i crêperie.

Neu leoedd fel Ynys Gybi ar ben gorllewinol Ynys Môn. Yn ôl y selogion does unlle gwell drwy’r byd i gaiacio. Yn sicr dyna farn Nigel Dennis o Sea Kayaking UK yng Nghaergybi.

Ac fe ddylai ef wybod, gan mai ef oedd y gŵr cyntaf i fynd o amgylch Prydain mewn caiac; mae hefyd wedi arwain teithiau i Ynys y Pasg, Antarctica a rownd yr Horn.

“Mae’r llanw’n llifo ar gyflymder o bedwar i chwe not o amgylch arfordir Môn, sy’n creu tonnau mawr mewn rhai ardaloedd”, meddai. “ Dyna’r amodau sydd eu hangen ar gaiacwyr i wella eu sgiliau, er y byddai’r cyhoedd yn meddwl eu bod yn mentro.”

Ond dydi llanw cryf Ynys Lawd ac Ynys Arw ddim yn apelio at bawb. I rai llai mentrus, nid yr adrenalin yw’r apêl ond yn hytrach y ffaith eu bod yn agos at natur ac ymhell o sŵn y byd.
Gan fod caiacau yn cynnwys popeth o bwmp `sbydu a chwmpawd i babell, sachau cysgu a hyd yn oed stof, gallwch ddechrau padlo - a dal i fynd, wrth eich pwysau.

“Mae hon yn gamp y gallwch ei gwneud ar bob lefel. Os byddai’n well gennych chi, gallech ddewis diwrnod tawel o haf a dal i badlo yn eich 60au neu 70au,”  meddai Nigel. “Gallwch fentro i ardaloedd anghysbell sy’n amhosibl eu cyrraedd mewn unrhyw ffordd arall, byddwch yn cyfarfod pobl ddiddorol a does dim rhaid talu i fynd ar y dŵr.”

Os yw hynny’n apelio atoch, neu os hoffech roi cynnig ar sgramblo’r arfordir neu ddeifio oddi ar un o’n llongddrylliadau niferus - neu hwylfyrddio gyda Bucky - cysylltwch.

Mae arbenigwyr wrth law. Mae siwtiau gwlyb ar gael. Ac mae gennym ddigonedd o ddŵr i chwarae ynddo.
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

diogelwch yn y dŵr

Gwelwch awgrymiadau sut i fod yn ddiogel yn y dŵr ar wefan River and sea sense - gwybodaeth diogelwch gweithgareddau dŵr

 

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :