Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Cyfyngiadau'r llanw ar y llwybr arfordirol

Rhosneigr

I'ch helpu i gynllunio eich taith, mae'r wybodaeth isod yn rhoi syniad yn unig o lle gallwch ddisgwyl gweld y cyfyngiadau ar fynediad yn ôl amodau arbennig y llanw. Fe'ch cynghorir yn gryf i edrych ar amserlen y llanw cyn cychwyn allan.

O'r 200km/125 milltir cyfan o lwybr arfordirol, mae tua 10% (20km/12 milltir) yn dilyn y draethlin ('shoreline'). Mae tua 5% o'r llwybr (10km/6 milltir) ar y blaendraeth ('foreshore') ei hun, sef rhwng y penllanw cymedrig ('mean high water') a'r distyll cymedrig ('mean low water').  I raddau, mae mynediad ar hyd y rhannau hyn yn cael eu cyfyngu yn ôl p'un a yw'r llanw i mewn neu ar drai.

Fe geir copïau o amserlen llanwau Lerpwl a Môr Iwerddon o'r rhan fwyaf o swyddfeydd post a siopau papur newydd ym Môn, neu'n uniongyrchol gan Laver Publishing . Gellir hefyd argraffu rhagolygon pump diwrnod ar gyfer mannau penodol ym Môn o'r  gwefan Admirality EasyTide.

Cyfyngiadau'r llanw

Mae uchder y llanwau y cyfeirir atynt yn ymwneud â’r rheiny y manylir arnynt ‘Laver’s Liverpool and Irish Sea Tide Table’.  Mae’r ymadrodd ‘penllanw’ yn cyfeirio at uchder penllanw ar gyfartaledd, felly’n fras rhwng y llanwau isel a’r llanwau mawr.  Nodwch os gwelwch yn dda y bydd mwy o gyfyngiadau ar fynediad yn ar adeg llanwau tymhorol uwch a llanwau mawr.

Rhan 1 - Caergybi i Borth Trwyn (Llanfaethlu)
Ar hyn o bryd, mae aber Afon Alaw yn rhannu’r rhan hon yn ddwy ac nid oes lle diogel i groesi.  Cyfeiriwch at y disgrifiad o’r llwybr am ragor o wybodaeth.
Pen Cob Stanley i Draeth Gorad (os yn mynd am y traeth) (SH285 799)
Ar hyd glannau gogleddol yr afon Alaw (SH309821) Porth Trefadog (SH291 861)
Mae'r dri yn hygyrch ar wahân awr o gwmpas adeg llanw mawr.

Rhan 2 - Porth Trwyn (Llanfaethlu) i Gemaes
Croesi allfa Lagŵn Cemlyn (SH329 935)
Mae modd croesi’r cawsai ar draws ceg lagŵn Cemlyn yn ystod y rhan fwyaf o’r llanwau, er yn achos llanwau mawr (dros 30 troedfedd, gall fod o dan ddŵr am hyd at awr pan fo’r llanw ar ei uchaf. Os nad ydych yn medru croesi, defnyddiwch y lôn fechan heibio Plas Cemlyn fel dewis arall dymunol.

Rhan 3 - Cemaes i Borth Amlwch
Porth Padrig, Cemaes (SH375 944)
Mae modd mynd ar y traeth hwn ac eithrio am awr o gwmpas amser y penllanw. Mae'r dewis arall i mewn i'r tir yn llwybr hwylus i fyny lôn at Eglwys Sant Padrig.

Rhan 4 - Porth Amlwch i Foelfre
Traeth Dulas (SH478 884)
Mae modd cael mynediad ac eithrio am awr cyn ac ar ôl y penllanw. Fodd bynnag, gan mai aber ydyw, dylid cofio bod y llanw’n dod i mewn yn gyflym iawn.

Rhan 5 - Moelfre i Bentraeth
Porth yr Aber (SH512858)
Benllech - o gwmpas Caffi Benllech Isaf (ar ôl ymuno â Ffordd Cynlas) (SH522 827)
Traeth Coch - Porth llongdy Uchaf i Dalgwyn (SH525 801)
Mae modd cael at y rhan fer ar y traeth ym Mhorth yr Aber ac o amgylch y caffi wrth gyrraedd Benllech ac eithrio am awr o gwmpas amser y penllanw, mae hyn yn wir hefyd yn achos y rhan rhwng Porth Llongdy Uchaf a Thalgwyn yn Nhraeth Coch.

Rhan 6 - Pentraeth i Fiwmares 
Traeth Coch - 250m ar y naill ochr i lôn 'Wern Hall' (SH552801)
Lleiniog i 'Fryars Bay' (i'r gogledd o Fiwmares) (SH619 787)
Mae'r rhan fer o'r lan yn Nhraeth Coch, yn union cyn ymuno â'r morglawdd, yn hygyrch ar wahân i phan fo'r môr i mewn, ar gyfer llanwau uchod dros 30 troedfedd / 9 metr. 
Mae modd cael at y rhan rhwng Lleiniog a Friar’s Bay ac eithrio am awr o gwmpas amser y penllanw, ond cofiwch mae'r rhan yn ychydig dros filltir, ac cymerwch ddigon o amser (1/2  awr). 

I'r de o Blas Llanfair, Llanfairpwll (y llwybr i agor yn 2005) (SH5SH5SH531 709).
Mae modd defnyddio llwybr wedi’i godi ynghyd â’r fynedfa iddo ar hyd y traeth heibio cerflun Nelson ac eithrio am awr o gwmpas amser y penllanw ar adeg y llanwau mawr.
 
I’r de o Blas Porthamel, Llanedwen (SH503 671)
I’r de bier Tal-y-Foel, Brynsiencyn (SH472 643)
Y cerrig sarn dros Afon Braint, Dwyran (SH440 647)
Mae modd cael at y rhannau o’r blaen traeth i’r de o Blas Porthamel a Thal-y-Foel a’r cerrig croesi ac eithrio am awr o gwmpas amser y penllanw.
 
Dim, er, yn achlysurol, na ellir mynd ar Ynys Llanddwyn (SH390 634) yn ystod llanwau uchel iawn – uwch na 30 troedfedd / 9 medr.   
 
Porth Lleidiog (SH348 678) a Phorth Cwyfan, Aberffraw (SH339 683)
Traeth Llydan, Rhosneigr (SH319 725)
Y gilfach yng Nglan Rhyd Isaf (SH292 776)
Mae pob un o’r glannau hyn yn hygyrch yn ystod y mwyafrif o lanwau, ac ni fyddent ond yn cael eu heffeithio’n ddrwg gan lanwau uchel tymhorol (uwch na 30 troedfedd / 9 medr)/. Fe all Porth Lleidiog fod yn anodd os ydych yn ei gyrraedd yn union ar y penllanw, ac fe all y mynediad o Draeth Llydan i fyny’r llithrfa i Rosneigr gael ei effeithio hefyd.
 
I’r de o Bontrhydybont (SH280 782)
Ochr orllewinol traeth Borthwen, Rhoscolyn (SH270 749)
Mae’r traeth i’r de o Bontrhydybont dan ddŵr am gyfnod o awr o gwmpas amser y penllanw ac efallai y bydd traeth Borthwen wedi’i effeithio os byddwch yn cyrraedd yno ar adeg penllanw.
 
Dim
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :