Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Cylchdeithiau arfordirol Ynys Môn

Gyda dewis o 10 taith gerdded cylchol ymhob cornel o'r ynys, yr unig beth sydd ar ôl i'w ddewis yw - ydach chi'n cerdded gyda'r môr ar y dde neu'r môr ar y chwith!

Mae teithiau cerdded cylchol ym mhob man - rhai byr, bryniog, arfordirol, treftadaeth, teithiau cerdded yn ymyl olion Rhufeinig, teithiau cerdded i weld llamidyddion a morloi, ystlumod, gwyfynod, bywyd gwyllt a thethiau gwylio adar.

Mae gan yr holl deithiau cerdded rhywbeth yn gyffredin. Byddwch yn canfod rhai o'r golygfeydd arfordirol mwyaf hudolus ym Mhrydain. Mae Ynys Môn yn denu artistiaid, arlunwyr a ffotograffwyr o bob man, a byddwch yn deall pam fod Ynys Môn hefyd yn eich gwahodd i chwysu.







Ac os nad yw hynny'n ddigon, rhowch gynnig ar y cyfan o'r llwybr arfordirol 125 milltir, sy'n cynnwys dringo 13,695 troedfedd ar ynys sy'n honni bod yn wastad.

Atodir isod daflenni gyda map a disgrifiad o'r deithiau. Mae croeso i chi ddadlwytho a phrintio y taflenni.

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :