Mae’n anodd dychmygu daearegwyr fel pobl y gellir eu cynhyrfu. Ond mae Ynys Môn yn cael effaith ryfedd ar y mwyaf myfyrgar o’r ymwelwyr hyn yr ydym yn eu croesawu.
Ar gyfer archwilwyr creigiau, mae ein hynys, y fwyaf yng Nghymru a Lloegr, gyda rhai o’r ffurfiannau craig mwyaf swynol a dadlennol yn Ewrop, os nad y byd.
Nid yw’n syndod felly bod Ynys Môn yn Geoparc dynodedig – sef ardal o ddiddordeb unigryw i’r rheiny sydd â diddordeb yn ffurfiad y byd yr ydym wedi’i etifeddu.
Mae Ynys Môn yn gryno ac mae ganddi bopeth – mae’r ynys wedi peri syndod i genedlaethau o ddaearegwyr a chynhyrchu dadleuon sylweddol o bwys. Mae rhannau o Ynys Môn yn dangos hanes cyflawn esblygiad ein planed, yn mynd yn ôl 680 miliwn o flynyddoedd.
Mae’r gwaddodion ffyrnig oes Cyn Gambriaidd yma, pan y bu i dirlithriadau anferth gael eu sgubo i’r moroedd. Tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd gwaddodion yn cael eu allyrru gan “ysmygwyr duon” ar waelod y môr (gan wahanu yn y cyfnod hwnnw Gymru a Lloegr oddi wrth yr Alban). Gellir canfod y gwaddodion hyn yn awr wedi’u mwyneiddio ar Fynydd Parys, ger Amlwch.
Fel petai’n ddoe, mae Ynys Llanddwyn yn dangos tystiolaeth o gyfordraethau, sef rhan o’r arfordir 8,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd lefelau’r môr llawer uwch nac ydynt yn awr. Eironig yn wir, mewn cyfnod ble’r ydym yn cael ein rhybuddio ynghylch lefelau môr yn codi.