
Mynydd Parys
Lleisiau o'r Deyrnas Gopr
Yn 1768 credai Rowland Puw, mwyngloddiwr o Amlwch, ei fod yn ŵr ffodus iawn pan ddarganfu wythïen gyfoethog o fwyn copr ar Fynydd Parys. Rhoddwyd potel o wisgi iddo a chafodd fyw mewn bwthyn lleol heb dalu’r rhent am weddill ei oes.
Diwrnod da o waith. Ond yna daeth y brenin copr. O dan reolaeth yr entrepreneur Thomas Williams, datblygodd y gwaith gan ddod yn un o’r mwyngloddiau mwyaf drwy’r byd i gynhyrchu copr.
Tyfodd Amlwch o fod yn bentref bach o chwe thŷ i fod y porthladd prysuraf yng Nghymru gyda chei llydan newydd lle câi mwyn copr ei doddi a’i gludo mewn llongau dros y byd.
Ac ym Mynydd Parys creithiwyd y dirwedd wrth i filoedd o ddynion gloddio am gopr gyda’u ceibiau, eu rhawiau a’u powdwr gwn. Heddiw mae ceudyllau enfawr ar y mynydd ac mae creigiau coch, oren a phorffor yn britho’r dirwedd wrth i’r gwaddodion mwynau hindreulio. Mae’r lle’n edrych mor arallfydol nes bod ffilmiau ffuglen wyddonol yn cael eu gwneud yma.
Diolch i brosiect newydd gwerth £3 miliwn, mae'n bosibl gwerthfawrogi hanes rhyfeddol
“Y Deyrnas Gopr”. Mae canolfan dreftadaeth eiconig yn cael ei hadeiladu yn y cyn finiau copr ar y cei.
Bydd yn agor yn ystod haf 2012, a bydd yn cynnwys arteffactau arbennig yn perthyn i hanes mwyngloddio ac adeiladu llongau Amlwch. Un o’r arteffactau fydd darn o gopr a ddefnyddid ar waelod yr HMS Victory, llong enwog Nelson ym Mrwydr Trafalgar.
“Bydd yn brofiad ymarferol i’r teulu cyfan,” meddai Alison Price, swyddog datblygu treftadaeth. “A heb fynd â phobl dan ddaear, rydym yn gobeithio gallu ail-greu’r profiad o edrych i lawr siafft pwll, a gweld mor dywyll ac erchyll oedd y profiad.”
Mae’r prosiect wedi helpu’r dref gyfan i fynd yn ôl at ei gwreiddiau. Mae timau o ymchwilwyr wedi bod yn cyfweld pobl leol ac yn casglu hanes llafar cyfoethog. Byddwch yn gallu clywed eu lleisiau wrth i chi deithio o gwmpas yr arddangosfeydd.
Ar Fynydd Parys ei hun, mae’r tŷ injan drawst Cernywaidd wrthi’n cael ei drwsio. Mae lloches rhag tywydd gwlyb yn cael ei chodi yn y felin wynt ar y copa. Hefyd bydd pont arbennig yn helpu i gwtogi’r llwybr treftadaeth o gwmpas y mynydd o fod yn daith tair awr i 90 munud.
Mwy na digon o amser i ddychmygu pan oedd y dirwedd ddieithr hon yn llawn sylffwr, sŵn a pheryglon. A phan oedd y porthladd bach i lawr y ffordd yn fyd-enwog am wneud y llen gopr ar waelod llong Nelson.
Porwch drwy'r adran yma am ddewisiad o'r safleoedd sydd ar gael ond peidiwch ag anghofio chwilio drwy ein hadran "beth i'w wneud" am ragor o atyniadau ynghyd a manylion cyswllt ac oriau agor.