Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Llwybr Arfordirol Ynys Môn - Arweinlyfr Swyddogol

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn 200km (125 milltir) o hyd ac wrth gerdded hyd-ddo fe welwch rai o olygfeydd arfordirol harddach Cymru - traethau tywydlod eang ac aberoedd; cildraethau unig; clogwyni dramatig ac ynysoedd creigiog; twyni tywod a choedwigoedd. Mae llawer o'r morlin wedi'i ddynodi'n un o bum 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' (AHNE) yng Nghymru.
 
Mae gan Carl Rogers, yr awdur sydd wedi paratoi'r llawlyfr yma, wybodaeth helaeth am yr ynys a'i llwybr arfordirol, ac mae eisoes wedi cyhoeddi dau lyfr am gerdded ar Ynys Môn. Mae Rosie Frankland, Rheolwraig Prosiect Llwybr Arfordirol, wedi cyfrannu gwybodaeth ychwanegol drwy'r testun.

Y nod wrth baratoi'r llawlyfr oedd darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen i gynllunio'ch taith ar hyd y llwybr arfordirol. Mae'n cynnwys: Gwybodaeth am gynllunio'r daith fel llety, defnyddion drafnidiaeth gyhoeddus ac amseroedd, adegau yn y tymor pan fo rhannau o'r llwybr ar gau a chyfyngiadau'r llanw. Deuddeg pennod o deithiau cerdded gyda disgrifiad manwl o'r daith a map. Nodiadau ar fannau o ddiddordeb ar hyd y daith.

Cael Copi

Pris: £9.99
Ar gael o: Canolfan Croeso Llanfairpwll
Ffôn: +44 (0)1248 713177
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :