Môn Tirluniau'r Arfordir Gynt
Mae llyfr newydd wedi'i lawnsio s'yn rhoi i ddarllenwyr well daealltwriaeth o’r dylanwadau diwylliannol ac hanesyddol sydd wedi helpu siapio tirwedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.
Mae tirweddau arfordirol AHNE Ynys Môn wedi eu dogfennu yn Môn: Tirluniau’r Arfordir Gynt, cofnod darluniadol o anheddau cynhanesyddol i’r presennol.
Yn y llyfr, mae’r ffaith fod Ynys Môn yn Ynys yn cael ei bwysleisio fel bod yn hanfodol i’w hanes, gyda’r arfordir yn ffynhonell o bysgota cynhanesyddol a dal wystrys. Mae’r llyfr wedyn yn mynd a’r darllenwyr ar daith o siambrau claddu Neolithig, crugau crynion Oes yr Efydd, fila’s a dylanwad Rhufeinig, cyrchoedd Gwyddelig, mwnt Normanaidd i’r Castell Edwardaidd olaf a adeiladwyd ym Miwmares.
Mae hefyd yn cymeryd i ystyrieth datblygiadau mwy diweddar fel twf Caergybi i fewn i brif borthladd yr Ynys a datblygiadau mwy diweddar o ffermydd gwynt.
Tynnwyd y lluniau trawiadol gan Mick Sharp a Jean Williamson ac maent wedi atodi gyda testun gan Frances Lynch, un o archeolegwyr pennaf Gogledd Cymru, sydd yn cyflwyno pob pennod ac yn darparu penawdau manwl sydd yn disgrifio ac yn rhoi gwybodaeth cefndirol i’r lluniau. Cyhoeddir y llyfr hwn fel rhan o’r gyfres Landscapes of Britain gan lyfrau Oxbow.
Roedd adran
Cyngor Sir Ynys Môn - AHNE yn hapus iawn i rhannol ariannu’r prosiect hwn trwy’r Gronfa Ddatblygu Cynaliadwy, cronfa gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a weinyddwyd gan AHNE Ynys Môn. Fe obeithir y bydd y prosiect hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dirwedd hanesyddol yr AHNE ymysg aelodau’r gymuned leol a hefyd ymysg ymwelwyr, yn ogystal ag annog ymweliadau i safleoedd treftadaeth yr ardal.
Windgather Press yn cyflwyno
Môn Tirluniau'r Arfordir Gynt
Ffotograffiaeth gan Mick Sharp a Jean Williamson
Testun gan Frances Lynch
Mae'r llyfr a’r gael yn y Gymraeg yn ogystal a’r Saesnag a fydd a’r gael gan www.gwales.com a www.oxbowbooks.com am £20.00.