Mae cyfleusterau parcio yn y maes awyr gyda llefydd wedi eu neilltuo ar gyfer teithwyr anabl.
Mae costau parcio fel a ganlyn:
I fyny i 30 munud - 50c
I fyny i 3 awr - £2
I fyny i 24 awr - £5
Gellir talu am barcio wrth beiriant tocynnau ac ar hyn o bryd nid yw'n bosib trefnu lle parcio ymlaen llaw. Mae'r maes parcio o fewn pellter cerdded agos (tua 150m) i adeilad y maes awyr. Nid oes troliau bagiau ar gael.
Mae'r maes parcio yn agored rhwng 07:10 a 10:30 a 15:00 a 18:30 ar Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 07:10 a 10:30 a 14:30 a 18:00 ar Ddydd Gwener. Nid oes mynediad i'r maes parcio tu allan i'r oriau hyn o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Bydd y maes parcio ar gau ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc.