Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Priordy Penmon

Safle godidog Priordy Penmon

Yn cyd-fynd gyda lledaeniad Cristnogaeth yn y 6ed ganrif fe adeiladwyd mynachlogydd mewn lleoliadau diarffordd.

Adeiladwyd dwy ar derfynau cyferbyn Ynys Môn. Adeiladwyd mynachlog Cybi Sant yng Nghaergybi, a’r llall ar ochr gogledd ddwyrain yr ynys ym Mhenmon (pen Ynys Môn). Roedd y ddau Sant yn gyfeillion, yn cerdded ar draws yr ynys i gwrdd yn wythnosol.

Mae gan Benmon amrywiaeth o adeiladau gwahanol a diddorol. Mae’n debyg mai’r hynaf yw ffynnon Seiriol Sant, y credir fod iddi bwerau iachau, ac fe ymwela pererinion â hi.

Datblygodd y fynachlog dros yr oesoedd, o fframwaith pren, a ysbeiliwyd ac a losgwyd gan y goresgynwyr Llychlynnaidd yn 971 OC, ac yna’n raddol gydol y 12fed ganrif fe’i hail adeiladwyd fel adeilad carreg gan Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Mae’n adeilad trawiadol ac yn un o’r enghreifftiau gorau o’i fath yn yr ardal.

Cynllun cyfarwydd y croesffurf sydd iddi, ond yn ystod teyrnasiad Llywelyn ap Iorwerth fe ychwanegwyd ffreutur, yn cynnwys ystafell fwyta, hundy a seleri.

Yn 1537 diddymodd Harri’r VIII y fynachlog, a throsglwyddwyd y tiroedd i’r tirfeddianwyr lleol, teulu’r Bulkeley, a defnyddiwyd hwy fel parc ceirw.

Gerllaw, ar draws y swnt peryglus mae Ynys Seiriol, (neu Puffin Island fel y gelwir hi yn Saesneg). Sefydlwyd cymuned fechan yma a gwelir nifer o adeiladau mynachaidd o’r canol oesoedd yma.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Penmon
Biwmares

Am ragor o wybodaeth gwelwch safle we CADW.

oriau agor

Mae'r safle yn agored trwy'r adeg, yr eglwys o 10am tan machlud yr haul.

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :