O Bont Marcwis, mae modd beicio i Falltraeth neu Langefni neu barhau ar hyd Lwybr rhif 8 i Langaffo a Llanddaniel Fab ac yna ymlaen i Borthaethwy drwy Lanfair PG gyda chyswllt i’r orsaf reilffordd. Ym Mhorthaethwy, mae’r Llwybr yn croesi’r bont enwog ac ymlaen i Gaernarfon ar hyd ochr ddeheuol Afon Menai.
Mae llwybr beicio Arfordir Gogledd Cymru, Llwybr Cenedlaethol rhif 5 hefyd yn cychwyn/gorffen yng Nghaergybi cyn croesi canol yr ynys ar ei ffordd i Gaer. Mae Llwybrau 8 a 5 yn dilyn yr un trywydd allan o’r dref borthladd cyn gwahanu ym mhentref Y Fali. Mae Llwybr rhif 5 yn pasio Melin Llynnon yn Llanddeusant, sef yr unig felin wynt sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n lle ardderchog i gael gorffwys bach.
Llannerch-y-medd yw’r pentref nesaf ar y Llwybr ac mae yno nifer o lefydd i stopio a phrynu cyflenwadau. Mae’r rhwydwaith ardderchog o lonydd tawel yn mynd â chi wedyn i gyfeiriad Llyn Cefni lle mae modd ymuno gyda phen gogleddol Lôn Las Cefni. Ar ôl Pentraeth, rydych yn mynd i lawr i Afon Menai a thref dlos Porthaethwy lle gellwch groesi’r bont i gyrraedd Bangor a mynd i’r dwyrain tuag at drefi arfordirol Gogledd Cymru.
Gellir defnyddio’r ddau Lwybr Cenedlaethol i gael taith gylchol o gwmpas yr ynys gyda mynyddoedd Eryri’n gefndir godidog i’r daith, neu gellir eu cyfuno gyda Lôn Las Cefni a’r pedwar llwybr ‘adar’ i greu amrywiaeth o opsiynau sy’n mynd â chi i galon yr ynys arbennig hon.