Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Teithiau Cerdded gydag Arweinydd ar y Llwybr Arfordirol 

Mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg rhaglen o deithiau cerdded gydag arweinydd gydol y flwyddyn:  fel arfer, cynhelir y teithiau unwaith y mis ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ddydd Mercher.

Yn gyffredinol, mae dwy fath o daith: teithiau hwy o 6-8 milltir a rhai byrrach rhai 3-4 milltir, mae’r rhai cyntaf fel arfer yn rhai mwy heriol a’r rhai 3-4 milltir yn fwy ar gyfer y rheini sydd eisiau cerdded yn hamddenol. 

 Mae’r rhan fwyaf o’r teithiau cerdded yn rhai cylchol yn cynnwys rhannau o’r Llwybr Arfordirol wedi’u cysylltu gyda llwybrau mewndirol.  Mae’r holl deithiau yn anffurfiol, ac yn cynnig awyrgylch delfrydol i gyfarfod pobl ac i wneud ffrindiau.  Gan ddibynnu ar bwy sy’n arwain, efallai y cynigir, yn ystod y teithiau, wybodaeth ynghylch adar, hanes neu ddaeareg leol.  Ar ddiwedd taith, yn arbennig y rhai byrrach, byddwn yn mynd am bryd o fwyd a diod yn lleol.   Nid oes angen i chi fod yn un o Gyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn i ymuno â thaith gerdded, mae croeso bob amser i bobl newydd ddod hefo ni ar daith.

Ceir gwybodaeth isod am y teithiau sydd wedi’u cynllunio a cheir manylion pellach ar wefan Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn:  

A fyddech cystal, os gwelwch yn dda, a gwisgo esgidiau cerdded, dillad addas a dewch â lluniaeth hefo chi.  Ni chaniateir cŵn ar rai teithiau

Teithiau Cerdded

Dydd Mercher , Mai 9ed - Amlwch a 'r Cylch

Taith  eitha  rhwydd , cychwyn o Amgueddfa Morwrol Porth Amlwch  a  cherdded i 'r gorllewin tuag at 'Bonc Jim'. ac  yn  ol  ar  lwybrau  gwledig. - pellter  o  gwmpas 4 milltir

Cyfarfod: Amgueddfa Morwrol Porth Amlwch  am 10 -00 y bore

Cyfeirnod: SH454935. Sat Nav  Gog 53 24 56  Gor  4  19  39

Arweinwyr: Gareth  a  Valerie 01407  710755

Dydd Mercher  Mai  23 ain - Cylchdaith o gwmpas Porth Eilian

Taith eitha  rhwydd ar  y  cyfan gyda golygfeydd  arbennig  o'r  arfordir : o gwmpas 6 milltir mewn pellter

Cyfarfod: Maes Parcio  ucha' Porth Eilian  am  10  y  bore

Cyfeirnod: SH475929. Sat Nav  Gog  53  24  38  Gor   4  17   44

Arweinydd: Maureen 01407  830613

Dydd Sadwrn  Gorffennaf  7ed  Cylchdaith  yn  ardal  Aberffraw  

Taith i Eglwys Porth Cwyfan gan ymweld ac  Eglwys Beuno Sant ar y ffordd yn ol - pellter o gwmpas   6 i 7 milltir , y cerdded ddim yn anodd iawn

Cyfarfod: Maes Parcio wrth bont Aberffraw  am  10.30 y bore

Cyfeirnod: SH 356690. Sat Nav Gog  53  11  33. Gor  4  27  44

Arweinydd: Ed 01407  840600


Gellir gweld lleoliadau map yr holl fannau cyfarfod ar wefan y Cyfeillion:
https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/calendar

 

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :