Diogelwch ar y llwybr arfordirol: y tywydd
Machlud haul, Traeth Coch
Wedi'i lleoli yng ngorllewin Prydain, mae Ynys Môn yn profi hinsawdd wlyb a mwyn. Yn nodweddiadol, fe fydd ffryntiau yn dod i mewn oddi ar Fôr Iwerddon o'r de orllewin, yn taro Caergybi yn gyntaf, ac yn symud tua'r dwyrain.
Gan fod y llwybr cyfan ar dir isel, fe allwch gwblhau'r llwybr cyfan mewn tywydd mawr, er nad y modd mwyaf difyr o wneud hynny efallai! Fel yn achos cerdded yn unrhyw le yn Ynysoedd Prydain, fe ddylech fynd â dillad glaw da gyda chi bob amser. Yn nhermau'r tywydd gorau drwy'r flwyddyn, mis Mai a Mehefin sy'n cael y ffigurau uchaf o ran heulwen (y cyfartaledd ar gyfer Mai yw 225 awr, Mehefin 210 awr) a'r ffigurau isaf o ran glaw (y cyfartaledd ar gyfer Mai yw 50mm, ac ym Mehefin 51mm). Fe gewch hefyd gwmni sioe drawiadol o flodau'r gwanwyn.
Am ragor o wybodaeth neu am ragolygon y tywydd am 5 diwrnod ewch i wefan y
Met Office.