Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Llaw golffiwr yn gosod pêl golff gwyn ar ti gwyn

Golff

Mae gan bob cwrs ei heriau unigryw ei hun, fel cyrsiau cysylltiadau, rhostir a pharcdir.

Gyda dewis o gyrsiau 9 a 18 twll ar yr ynys, a golygfeydd gwych yn y cefndir ym mhob un ohonynt, efallai mai’r dasg anoddaf yw penderfynu pa un i’w ddewis.

Gallwch fwynhau’r byd natur a’r lleoliad hyfryd yng Nghaergybi, neu gael eich ysbrydoli gan yr olygfa o Eryri yn Neuadd Henllys.

Os ydych yn hoff o her, yna mentrwch i gwrs Golff Porthllechog, ger arfordir creigiog Ynys Môn, neu Glwb Golff Ynys Môn, ardal gadwraeth bwysig - felly cadwch lygad am fywyd gwyllt.

Neu, gallwch fynd i Baron Hill, un o’r cyrsiau hynaf yn y sir, ac un o’r rhai brafiaf, gyda golygfeydd gwych ar draws y Fenai i gyfeiriad Eryri.

Gofalwch nad yw golygfeydd gwych yr ynys yn mynd â’ch sylw ar y ffordd deg!

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau