Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Grwp yn Cerdded ar yr arfordir gyda'r ci

Llwybr Arfordirol: Trearddur i Caergybi

Grwp yn Cerdded ar yr arfordir gyda'r ci

Disgrifiad llwybr a lawrlwythiad map ar gyfer rhan 12 o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Mae'r disgrifiad o'r llwybr wedi'i gynnwys isod a gellir hefyd ei lawrlwytho fel ffeil i'w storio ar eich dyfais pan fyddwch allan ar y daith.

Disgrifiad o'r llwybr

Cerddwch ar hyd y promenâd rownd bae Trearddur. Pasiwch y gorsaf bad achub a throwch i’r chwith ar hyd y lôn, heibio llithrfa (‘slipway’) a gwesty’r Trearddur Bay Hotel.

Pasiwch fae Porth yr Afon ac yna trowch i’r chwith i fyny trac tuag at y t^y arswydus yr olwg Craig-y-Môr. Ewch ymlaen ar hyd y trac, heibio’r t^y, a throwch i’r chwith ar ôl mynd yn ôl i’r ffordd. Yn union heibio Porth y Pwll, trowch i’r chwith ar hyd y llwybr rownd y penrhyn i Borth y Post, gan anwybyddu’r fynedfa gul i fynd ar ynysig (‘islet’). Trowch i’r chwith ar hyd y lôn.

Ewch heibio Moryn, a’r trac mynediad at Bwth Corwgl, ac yna trowch i’r chwith i lawr trac. Pasiwch y giatiau mynediad at y ‘White Horses’, gan ymuno â llwybr wedi’i ffensio yn syth ymlaen drwy giât mochyn a thros bont i fynd ar y penrhyn (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Porth Dafarch).

Ewch yn syth yn eich blaen, ar y penrhyn a dilynwch y morlin (‘coastline’) rownd i ddynesu at Porth Dafarch. Ewch drwy’r giât mochyn, croeswch nant, a dilynwch y llwybr cul i ddod allan wrth y toiledau cyhoeddus ym Mhorth Dafarch. Trowch i’r chwith i lawr y llithrfa, rownd cefn y traeth islaw’r lôn, ac ewch i’r chwith i fyny gris ar hyd y llwybr.

Ewch dros gamfa fawr wrth barc carafannau, yn syth ymlaen dros fryn, a dilynwch y morlin. Croeswch bont sliperi (‘sleeper bridge’) a chamfa gerrig ac ewch i lawr grisiau rownd cefn ‘Copper Mine Creek’. Ewch i’r dde drwy gae i fyny at giât mochyn.

Cadwch at y llwybr treuliedig sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r arfordir rownd i giât mochyn arall. Gan ymuno â thrac, ewch i’r chwith, a dilynwch yr arfordir rownd heibio’r ynys â’r enw Dinas. Daliwch i ddilyn y llwybr at Borth Ruffydd. Dilynwch y llwybr rownd cefn Porth Ruffydd, gan fynd tua’r chwith i gadw at yr arfordir.

Cadwch ar y llwybr sy’n drac llydan, gan anwybyddu’r llwybr cul heibio gyli wedi’i ffensio. Pasiwch gilfach (‘inlet’) fawr, ac fel yr ydych yn dynesu at Benrhyn Mawr,
ewch i’r chwith oddi ar y trac i fynd ar lwybr ac fe fydd Ynys Lawd (‘South Stack’) a
Thwr Ellin yn dechrau dod i’r golwg. Ewch i’r chwith rownd Porth y Gwîn heibio’r creigiau y gallwch eu gweld islaw. Pasiwch drac cerbydau a chilfach, ac yna ewch i’r dde oddi wrth yr arfordir tuag at Fynydd Twr (‘Holyhead Mountain’).

Anelwch i fyny’r allt ac i’r dde i gyfeiriad toeau’r tai wrth y maes parcio. Trowch i’r chwith ar hyd y prif drac i gyrraedd y maes parcio. Ewch drwy’r maes parcio, heibio fferm Gors Goch i lawr i gyffordd ‘T’ gyda’r lôn. Trowch i’r chwith.

Ar ôl dau droad yn y ffordd, trowch i’r dde ar lwybr wedi’i ffensio sy’n gyfochrog â’r ffordd. Ewch dros gamfa gerrig, drwy’r ddwy giât fechan, a dilynwch y llwybr sydd

wedi’i ffensio rownd i fynd i’r chwith i lawr i gamfa gerrig allan i lôn. Croeswch y ffordd ac ewch yn eich blaen i fyny’r allt i fyny lôn. Pasiwch Henborth, Ty’n Nant a Phlas Nico, a gyferbyn â’r arwydd i’r cytiau Gwyddelod (‘hut circles’), ewch i’r chwith i mewn i faes parcio’r RSPB. Ewch yn syth yn eich blaen ar lwybr i Dwr Ellin. Ewch i fyny’r grisiau, heibio’r wylfa (‘lookout’), ac i fyny’r llwybr pitsh i ddod allan ar lôn gyferbyn â lle parcio. Trowch i’r chwith.

Yn y fynedfa i oleudy Ynys Lawd, ewch i’r dde i fyny llwybr pitsh tuag at wylfa. Gan fynd rownd y tu ôl i’r wylfa, ewch yn eich blaen i fyny llwybr treuliedig. Anwybyddwch lwybr cul sy’n arwain i’r chwith, ac ewch i gyfeiriad y polyn telegraff gan ddilyn copa’r bryn. Fe welwch gronfa ddw^r fach ar y dde i chi ac fe ddaw Ynys Arw (‘North Stack’) i’r golwg o’ch blaen. Dilynwch lwybr i lawr y llethr ac i fyny rhiw i ddod allan wrth ddau adeilad ar y dde i chi. Croeswch ffordd sy’n arwain at orsaf y trosglwyddydd (‘transmitter station’), a dilynwch y llwybr sy’n fforchio i’r chwith o’r gyffordd nesaf. Cadwch i’r chwith lle mae’r llwybr yn rhannu, ac fel y mae’r tir yn codi, mae’r llwybr yn rhannu eto. Ewch i’r dde yma.

Gan fynd i gopa’r rhiw, fe fyddwch yn pasio llwybr i’r dde sy’n arwain i gopa Mynydd Twr. Ewch yn syth yn eich blaen (onid ydych eisiau mynd i’r copa), a lle mae’r llwybr yn fforchio, ewch i’r chwith. Ewch i fyny darn caregog byr ac fe ewch drwy lecyn caeedig, ochr yn ochr â wal heibio gweddillion adeilad, ac yna i lawr gan fynd i’r dde oddi wrth y wal cyn pasio allan o’r llecyn caeedig hwn dros wal. Ewch i lawr llwybr serth, caregog i gyfeiriad y cyfeirbyst islaw i chi. Ar ôl cyrraedd llwybr llydan, trowch i’r dde, ac ar ôl ymuno â’r prif drac a llinell o bolion telegraff, trowch i’r chwith i lawr trac cerbydau i Ynys Arw.

Gyda’ch cefn at yr adeiladau yn Ynys Arw, ewch i’r chwith, oddi ar y trac cerbydau, i fynd ar lwybr pitsh sy’n ymddolennu i fyny ac i ffwrdd tuag at Barc Gwledig y Morglawdd.

Fel y mae’r llwybr yn lefelu, ewch i’r chwith i lawr llwybr pitsh arall i gyfeiriad y morglawdd. Pasiwch hen adeilad y stordy arfau (‘magazine’) gan ei gadw rhyngoch chi a’r môr. Ewch i lawr y grisiau, gan fynd i’r dde drwy amffitheatr naturiol yn y graig, ac i lawr drwy lecyn o eithin. Dilynwch y llwybr drwy gae, drwy giât mochyn, i ymuno â thrac. Ar ôl mynedfa i Barc Gwledig y Morglawdd ar y dde i chi, trowch i’r chwith drwy fwlch yn y wal. Ar ôl cyrraedd wal gerrig ddwbl, ewch yn syth yn eich blaen i lawr tuag at Porth Namarch.

Trowch i’r dde, a dilynwch ymyl y traeth. Croeswch ddwy bont sliperi, i fyny ychydig o risiau, i gyrraedd y penrhyn yn Ynys Wellt. Dilynwch y llwybr rownd y penrhyn (neu ewch yn syth yn eich blaen os am ddilyn llwybr byrrach), gan basio grid draenio mawr, a chan ymddolennu rownd i gyfarfod y prif lwybr, gan droi i’r chwith i fynd i lawr i gyfeiriad y bae wrth y Morglawdd. Ewch i lawr y grisiau, gan fynd ar y traeth am ychydig, yna ewch i’r dde i fyny llwybr at ffordd. Trowch i’r chwith, ac yna’n fuan wedyn trowch i’r dde, yn union cyn adeilad tyredog (‘turreted’) mawr o gerrig, drwy dramwyfa (‘passageway’) gerrig i fynd ar lôn gaeedig.

Dilynwch y lôn heibio bae Porth y Felin lle ceir llithrfa a chychod wedi’u hangori. Ewch heibio gwesty’r ‘Boathouse Hotel’ i ymuno â’r promenâd heibio’r Amgueddfa Forwrol. Ar ôl cyrraedd Porthladd Caergybi, trowch i’r dde wrth westy’r ‘Marine Hotel’, ar hyd y ffordd fawr. Croeswch ‘Cross St’, a phasiwch westy’r ‘South Stack Hotel’. Trowch i’r dde i fyny Stryd Boston a throwch i’r chwith i faes parcio. Ewch drwy’r porth bwaog i Eglwys Sant Cybi.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion Cyswllt


Cyfeiriad

Trearddur Bay

Ymweld a'r wefan

https://www.walescoastpath.gov.uk/?lang=cy

Mwynderau

  • Caffi.
  • Croeso i gŵn.
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Parcio ar gael.
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
  • Lluniaeth
  • Siop
  • Toiledau

gerllaw...