Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Golygfa o'r arfordir o amgylch Caergybi yn edrych tuag at Ynys Lawd

Rhanbarthau

Waeth pa mor hir y byddwch yn aros yn Ynys Môn mae’n debyg na fydd digon o amser, gan fod cymaint i’w weld a’i wneud pa bynnag amser o’r flwyddyn y dewch yma.

Mae'n hawdd dianc i’r gorffennol a chael cipolwg ar ffyrdd o fyw gwahanol gyfnodau yn ein hatyniadau hanesyddol poblogaidd, yn cynnwys cestyll trawiadol, ambell harbwr hardd, siambrau claddu hynafol a’r dewis o amgueddfeydd ac orielau. Gallwch fwynhau byd natur ar un o’n llwybrau bywyd gwyllt neu ymweld â pharc gwledig neu wneud y mwyaf o’ch gwyliau anturus ar yr ynys trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr, o hwylio i sgwba-blymio.

Cewch gyfle i weld harddwch yr ynys, ar hyd yr arfordir neu ar y tir, trwy fynd am dro ar hyd un o’n llwybrau cerdded braf neu feicio’n hamddenol cyn ymweld â marchnadoedd lleol prysur sy’n gwerthu cynnyrch cartref blasus. Neu beth am fwynhau picnic gyda’r teulu a threulio’r pnawn yn chwilota mewn pyllau glan môr ar un o draethau Ynys Môn - dewiswch chi.

Er hwylustod, rydym wedi rhannu'r ynys yn 5 rhan i'ch helpu i gynllunio'ch teithlen

Ni ddarganfuwyd unrhyw gategorïau