Trip hanner diwrnod: ardal Caergybi a Bae Trearddur

Melin Llynnon
Bydd trip hanner diwrnod o Ynys Môn yn mynd a ni i
Barc Gwledig y Morglawdd am daith o amgylch y parc i glywed ei hanes.
Gan weld golygfeydd gwych ar y ffordd bydd teithwyr yn cael gweld
Ynys Lawd a’i oleudy dramatig o’r 19 ganrif, sef un o olygfeydd harddaf a mwyaf cyffrous yr ynys.
Camwch yn ôl i 3750 CC wrth dynnu llun Siambr Gladdu Trefignath.
Gallwch fwynhau’r daith ar hyd yr arfordir trwy Fae Trearddur a gweld un o draethau hyfrytaf yr ynys.
Bydd ail hanner y daith yn mynd â ni i Felin
Llynnon, yr unig felin wynt sy’n dal i weithio yng Nghymru.
Yn dilyn gweld yr ŷd yn cael ei falu’n flawd, fe all teithwyr fwynhau te Cymreig traddodiadol yng Nghaffi Llynnon.