Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Oriel Hanes

Yma cewch gyflwyniad i hanes Ynys Môn. Cewch wybod am ymwelwyr ddoe a heddiw i’r ynys, y diwydiannau a roddodd yr ynys ar y map, y creiriau archaeolegol sydd wedi eu darganfod, y llongddrylliadau erchyll, a’r helwyr a newidiodd yn raddol yn ffermwyr cyntaf Môn.

Mae’r gwagle Dewch i Dyrchu yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i bawb. Nid amgueddfa sych mo hon ond cyfle i chi wrando, gweld, darllen, arogli, profi, cyffwrdd, chwarae a sgwennu.

Arddangosfeydd Oriel Hanes 2010>

Yr Adeiladwyr Beddrodau yng Nghymru 4000 - 3000 CC

20 Chwefror - 27 Mehefin 2010

Dynion ogof neu'n union fel ni? Mae'r arddangosfa, a gynhyrchwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn cydgysylltiad ag Amgueddfa Wrecsam, yn rhoi'r cynnig i chi ddarganfod yr ateb ac i weld arteffactau o gasgliadau yr Amgueddfa Genedlaethol.

Ynys Môn 1939 - 1945

3 Gorffennaf - 24 Rhagfyr 2010

Cipolwg ar fywyd yr ynys yn ystod y cyfnod unigryw yma.

Mae Oriel Ynys Môn yn cynnal arddangosfa unigryw eleni – Ynys Môn 1939 – 1945.

Cynhelir yr arddangosfa rhwng Gorffennaf 3 a Rhagfyr 24, 2010.

Ni ellir arddangosfa fel hon lwyddo heb gymorth trigolion Môn. Os oes gennych chwi, neu aelod o’ch teulu neu ffrindiau, atgofion – creiriau, lluniau ac ati sy’n ymwneud â’r cyfnod hwn – hoffem glywed gennych.

Byddem yn croesawu eitemau sy’n portreadu bywyd dyddiol pobl Môn yn ystod yr Ail Ryfel Byd – pethau fel:

Bywyd cymdeithasol, bywyd ysgol, bwyd, gwaith, ffasiwn

Cysylltwch â ni drwy ffonio 01248 724444 neu drwy ysgrifennu atom yn Oriel Ynys Môn, Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ neu drwy ebost: oriel@ynysmon.gov.uk

manylion cyswllt

Oriel Ynys Môn
Rhosmeirch
Llangefni
Ll77 7TQ

Ffôn: +44 (0)1248 724444
Ffacs: +44 (0)1248 750282
Ebost: orielynysmon@ynysmon.gov.uk

Siop Jac Do
Ffôn:
+44 (0)1248 752004

Caffi Blas Mwy
Ffôn: +44 (0)1248 751516

Bob dydd: 10.30am – 5pm

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth