Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Diogelwch ar y llwybr arfordirol: anifeiliaid fferm

Fe geir ym Môn lawer iawn o anifeiliaid fferm. Mae defaid o lethrau Eryri yn cael eu gaeafu ar yr ynys, gan ddychwelyd i’r mynyddoedd ddiwedd y gwanwyn. Oherwydd hyn, mae’n debygol y gwelwch ddefaid ar y llwybr arfordirol.

Fe allwch hefyd weld gwartheg – buchod maethu, bustych a hyd yn oed ambell darw.  Fe ganiateir i deirw, nad ydynt yn deirw buchesi godro, fod ar y llwybrau, os ydynt yn rhydd gyda buchod neu heffrod.  Yn aml, y teirw eidion hyn sydd â’r olwg fwyaf bygythiol arnynt gan eu bod mor fawr, ond maent yn ddof fel arfer.

Er mwyn helpu’r llwybr arfordirol ac amaethyddiaeth i gydfodoli, cadwch eich ci ar dennyn tra’n mynd drwy gaeau gydag anifeiliaid fferm ynddynt, ac o dan reolaeth ar bob adeg arall, o barch at ddefnyddwyr eraill y llwybr.  Tra’n cerdded drwy gae o wartheg, cerddwch yn bwyllog o amgylch y fuches - ceisiwch beidio â cherdded drwy’r canol – gan roi digon o le iddynt.  Byddwch yn ofalus iawn nad ydych yn mynd rhwng lloi ifanc a’u mamau, a rhowch ddigon o le iddynt.  Os ydych yn nerfus, yna fe all cario ffon fod o help.
 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth