Mae tair rhan i’r llyfr – cyflwyniad sy’n gosod cyd-destun, mynegai manwl sy’n ymdrin â phob rhan o’r ynys a chyfarwyddiadur sy’n rhestru pethau sydd i’w gwneud a lleoedd i’w gweld.
Mae nifer o nodweddion mewnol, gan gynnwys hanes a natur yr ynys a phortreadau o’i phobl nodedig.
Mae rhannau mwy helaeth yn olrhain hanes morwrol Môn, ei phensaernïaeth a’i threftadaeth ddiwylliannol.
Lluniwyd a chyhoeddwyd y llyfr yn annibynnol, heb nawdd na chymorth grant. Nid yw’n cynnwys unrhyw hysbysebion.