Rhan 10: Aberffraw - Pontrhydybont (Four Mile Bridge)
Mae'r rhan hon o'r llwybr yn amlygu nodwedd fwyaf poblogaidd yr ynys sef ei thraethau tywodlyd.
Mae'r llwybr yn dilyn clogwyni creigiog isel cyn belled â'r siambr gladdu ym Marclodiad y Gawres ym Mhorth Trecastell.
O'r fan hon, mae traethau llydan anferthol gyda thwyni tywod y tu ôl iddynt yn ymestyn yr holl fordd i'r Lasinwen lle byddwch yn ymuno â thir amaethyddol isel ym Mhontrhydybont.