Mae'r rhan hon o'r llwybr yn cychwyn ar hyd y traeth ac yna'n troi i mewn i'r tir drwy goedwig.
Yna mae'r llwybr yn dilyn rhan amrywiol o'r arfordir gyda chilfachau creigiog, traethau bychan tywodlyd a chyfres o glogwyni trawiadol mewn lliwiau anghyffredin.
Yna byddwch yn mynd heibio 'Bwa Gwyn' a 'Bwa Du' allan yn y môr cyn cyrraedd rhan o'r arfordir sy'n fwy datblygedig i mewn i Drearddur.