Rhan 3: Cemaes - Porth Amlwch
Dyma un o'r rhannau mwyaf trawiadol o Llwybr Arfordirol Ynys Môn. Gan adael Cemaes, mae'r llwybr yn ymuno ar unwaith gyda'r clogwyni creigiog ac yn mynd â chi ar siwrnai bensyfrdanol heibio Eglwys Llanbadrig, Porth Llanlleiana a Phorth Cynfor i gyrraedd ym mae ysblennydd Borthwen.
Yna, mae clogwyni creigiog isel yn eich arwain i Borth Amlwch.