Dyma'r rhan fwyaf gwastad o'r llwybr arfordirol ac at ei gilydd, mae'n dilyn trywydd y Fenai.
Mae'r dirwedd yn ddeniadol gyda thir amaethyddol coediog yn ymylu ar y traeth a'r mynyddoedd a chastell Caernarfon yn gefndir yr ochr arall i'r dŵr.
Byddwch yn gorffen y daith drwy wneud eich ffordd yn ôl i mewn i'r tir drwy groesi afon lanwol Braint ar draws cyfres o gerrig sarn mawr.