Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Olrhain eich hanes teulu?

Ydych yn meddwl bod gennych gysylltiadau teuluol â Ynys môn? Ac, os oes, â yw'n bosib fod eich teulu'n hanu o Fôn? Cawsoch eich symyd yma yn y rhyfel fel faciwî?

Os yw hynny'n wir, a bod gennych ddiddordeb mewn olrhain eich achau neu eich hanes personol yma ar yr ynys, byddwch yn falch o wybod fod Ynys Môn yn cynnig ei gwasanaeth ei hun i gynorthwyo achyddion.

Gall ymchwil o'r fath fod yn fuddiol iawn - ond gall hefyd gymryd amser maith. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o'ch amser ac i ganiatáu i chi fynd allan i grwydro o gwmpas yr ynys ac ymweld ag union ardaloedd genedigol eich hynafiaid, mae paratoi gofalus yn hanfodol.

Y mae croeso i bawb ddefnyddio'r Archifdy heb apwyntiad. Yr ydym yn argymell i chi gysylltu ymlaen llaw os ydych yn bwriadu defnyddio cofnodion ar ficroffilm neu feicroffiche, er enghraifft, cyfrifiadau. Os gellwch wneud hynny cyn dod ar eich gwyliau, gorau oll! Rydym yn eich cynghori i gasglu cyn gymaint o ffeithiau â phosib gan dalu sylw arbennig i fanylion am ddyddidau, llefydd, a'r bobl yr ydych yn gobeithio dod o hyd iddynt.

Y mae'r Archifdy yn aelod o'r sustem tocyn darllen cenedlaethol (CARN). Gellir cael tocyn ar y diwrnod yr ydych yn ymweld - ni wrthodir neb heb docyn. I dderbyn tocyn CARN (tocyn sy'n ddilys am 4 mlynedd), rhaid i ddefnyddwyr gyflwyno dogfen sydd yn cynnwys enw, cyfeiriad a llofnod. Ni chodir tal am gerdyn CARN, nid oes angen llun, ac y mae ar gael yn ystod eich ymweliad.

Rydym i gyd o bosib yn cynhyrchu archifau, un ai yn ein gwaith neu ein bywydau preifat drwy ysgrifennu rhywbeth neu drwy dynnu llun. Mae pob eitem yn unigryw, yn llyfr cofnodion, cynllun neu lythyr, felly rhaid cymryd camau pwrpasol i'w diogelu. Wrth fynd i mewn i'r ystafell archifau gofynnir i chwi adael eich bagiau mewn cwpwrdd pwrpasol ac arwyddo cofrestr. Yna rhaid i chi gwblhau ffurflen gais ac fe fydd y staff yn dod a'r dogfennau i chi. Gofynni i chi ddefnyddio penseli wrth edrych ar y ddogfen.

Mae'r staff yn y swyddfa'n gyfeillgar ac yn barod i'ch gynorthwyo a rhoi cyngor er mwyn i chi ymchwilio eich achau.

Am fanylion llawn am sut i gysylltu â'r archifdy ynghyd ag oriau agor a lleoliad, cofiwch ymweld â safle we Cyngor Sir Ynys Môn - archifau.

manylion cyswllt

Gwasanaeth Archifau
Archifdy Ynys Môn
Neuadd y Sir
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
LL77 7TW

Ffon: +44 (0) 1248 752080

ebost: archifau@ynysmon.gov.uk

gwe:
Cyngor Sir Ynys Môn - archifau

Dydd Llun 9am - 5pm
Dydd Mawrth 2pm - 5pm (2 -7, ar yr ail a`r pedwerydd nos Fawrth o`r mis.)
Dydd Mercher 9am - 5pm
Dydd Iau 9am - 5pm
Dydd Gwener 9am - 5pm

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth