Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Canolfan Ucheldre

ucheldre centre 530

Canolfan Ucheldre, Caergybi

Mae Canolfan Ucheldre yn ymdrech gymunedol i ddarparu canolfan gelfyddydau, arddangosfeydd a gweithgareddau cymunedol addysgiadol a diwylliannol ar gyfer pobl sy'n byw ger Caergybi a gogledd orllewin Cymru.

Calon Canolfan Ucheldre yw capel lleiandy yn perthyn i urdd Gatholig Ffrangeg, chwiorydd Bon Sauveur (Good Saviour). Daeth y capel ar gael yn dilyn dymchweliad yn 1988 o Ysgol y Cwfaint - adeilad tebyg i gastell oedd yn eistedd uwchben tref Caergybi. Caewyd y cwfaint yn 1982 ac adeiladwyd nifer o unedau dai yn y gerddi. Byddai'r capel wedi'i ddymchwel ond dyfeisiwyd prosiect Ucheldre. Ers hynny mae'r ganolfan wedi'i ymestyn i gyd-fynd gyda'r adeilad gwreiddiol, ynghyd a gerddi, amffitheatr a gardd furiog gyda cherfluniau.

Cynigir dosbarthiadau mewn cydweithrediad a Chyngor Addysgol y Gweithwyr a Phrifysgol Bangor gan gynnwys arlunio o'r byw a phortreadu, paentio dyfrlliw, cyfryngau amrywiol a gwydr. Yn ystod y gwyliau ceir rhaglenni gweithdai celf, drama a dawns ar gyfer pobl ifanc.

Ffilm, theatr, cyngherddau, arddangosfeydd neu weithgareddau, mae'r Ucheldre yn darparu rhywbeth ar gyfer pawb.

manylion cyswllt

Millbank
Caergybi
LL65 1TE
 
Ffôn: +44 (0)1407 763361
Facs: +44 (0) 1407 763341

gwe: Canolfan Ucheldre

10yb - 5yh Dydd Llun i Ddydd Sadwrn;
2 - 5 yh Dydd Sul
 
 

gwybodaeth ddefnyddiol

Mynediad:
Mae mynediad i'r ganolfan ar gyfer ymweld a arddangosfeydd yn rhad ac am ddim. Mae cost tocynnau yn rhesymol ar gyfer digwyddiadau, ffilmiau, a gweithgareddau.

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth