Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Diogelwch ar y llwybr arfordirol: y tywydd

Machlud haul, Traeth Coch

Wedi'i lleoli yng ngorllewin Prydain, mae Ynys Môn yn profi hinsawdd wlyb a mwyn. Yn nodweddiadol, fe fydd ffryntiau yn dod i mewn oddi ar Fôr Iwerddon o'r de orllewin, yn taro Caergybi yn gyntaf, ac yn symud tua'r dwyrain.

Gan fod y llwybr cyfan ar dir isel, fe allwch gwblhau'r llwybr cyfan mewn tywydd mawr, er nad y modd mwyaf difyr o wneud hynny efallai!  Fel yn achos cerdded yn unrhyw le yn Ynysoedd Prydain, fe ddylech fynd â dillad glaw da gyda chi bob amser.  Yn nhermau'r tywydd gorau drwy'r flwyddyn, mis Mai a Mehefin sy'n cael y ffigurau uchaf o ran heulwen (y cyfartaledd ar gyfer Mai yw 225 awr, Mehefin 210 awr) a'r ffigurau isaf o ran glaw (y cyfartaledd ar gyfer Mai yw 50mm, ac ym Mehefin 51mm).  Fe gewch hefyd gwmni sioe drawiadol o flodau'r gwanwyn.
 
Am ragor o wybodaeth neu am ragolygon y tywydd am 5 diwrnod ewch i wefan y Met Office.

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth