Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Gwas y Neidr Glas

Bywyd Gwyllt Cors Erddreiniog

Gwas y Neidr Glas

Cors Erddreiniog yw cors galchog fwyaf Môn, ac yn werth ei gweld

Cors Erddreiniog yw cors galchog fwyaf Môn. Adlewyrchir ei phwysigrwydd mawr yn y gyfres o ddynodiadau a roddwyd arni sy’n cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (AoDdGA), Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safle Ramsar (a briodolir i wlypdiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol). Lleolir y gors galchog hon rhwng pentrefi Capel Coch a Bryn Teg, ac mae parcio cyfyngedig yng Nghapel Coch. Mae llwybr pren yn arwain drwy’r gwelyau hesg ac mae trac sy’n cynnig mynediad i rannau eraill o’r warchodfa. Mae gan y gors galchog amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys gwelyau hesg eang, coetir, rhostir a llynnoedd bach.

Mae’r ardal yn gartref i nifer o blanhigion arbenigol, fel tegeirian y clêr a’r gwlithlys cigysol, ac mae’n cynnig llety i gasgliad cyfoethog o bryfetach, yn arbennig glöynnod byw, gwyfynod, mursennod a gweision neidr. Gellir gweld britheg y gors, un o löynnod byw Ynysoedd Prydain sydd fwyaf dan fygythiad, ar y warchodfa a phoblogaeth ar ei phen ei hun o fursen las Penfro, sy’n brin. Rhywogaethau planhigion y gors galchog sydd bwysicaf yw’r gorsfrwynen lem, corsfrwynen ddu, helygen Fair, brwynen flaendon a glaswellt y gweunydd. Mae’n gynefin sy’n gyfoethog mewn tegeirianau prin sy’n bwysig yn rhyngwladol gydag amrywiaeth eang o rywogaethau gan gynnwys tegeirian y gors culddail, tegeirian y gors gogleddol, tegeirian llydanwyrdd bach a caldrist y gors. Ceir rhawn yr ebol prin yma yn ogystal â’r migwyn a’r grug croesddail yn y mannau gwlypaf. Planhigion nodedig eraill yw crwynllys y gors, cwcwll y mynach a tamaid y cythraul. Mae cynefinoedd y gors galchog yn denu amrywiaeth eang o adar. Yn y gaeaf gallwch weld y boda tinwyn yn hela neu haid o gornchwiglod. Yn ystod yr haf gellir gweld adar fel titw’r helyg ac, os ydych yn lwcus, y troellwr bach sy’n anodd iawn i’w gweld oherwydd eu cuddliw a’u gallu anarferol i daflu eu llais! Mae hefyd yn werth cadw llygad am frogaod, gwiberod, dyfrgwn, ysgyfarnogod a llygod pengrwn y dŵr.

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Gors Erddreiniog

Mwynderau

  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Parcio ar gael.

gerllaw...