Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Tri person ar y llwybr pren yn edrych dros Lyn Maelog ar ddiwrnod braf

Llyn Maelog

Tri person ar y llwybr pren yn edrych dros Lyn Maelog ar ddiwrnod braf

Mae Llyn Maelog ar ochr ddwyreiniol pentref Rhosneigr.

Mae Llyn Maelog ar ochr ddwyreiniol pentref Rhosneigr. Mae ei arwynebedd tua 36 hectar, ac mae wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei statws fel llyn sy’n gyfoethog mewn maeth gyda fflora a ffawna nodweddiadol.

Mae’r llyn yn cynnal casgliad da o adar ac adar hela welir yn yr hesg, yn arbennig yn ystod y gaeaf, pan mae’n bosib cyfarfod â’r cwtiar, yr hwyaden bengoch a’r cwtiad aur. Mae aderyn y bwn yn treulio’r gaeaf yma - ac mae’r rhain wedi magu wrth y llyn yn y gorffennol, yn ogystal â gwyddau gwylltion a phioden y môr. Un o ymwelwyr haf mwyaf melodaidd y llyn yw telor y cyrs - aderyn y gellir ei glywed yn aml yn canu o’r gwelyau hesg trwchus o amgylch glan y llyn. Gwelwyd misglen yr elyrch dŵr croyw yma hefyd.

O ran planhigion mae Llyn Maelog yn cefnogi wyth rhywogaeth o ddyfrllys gan gynnwys y cornwlyddyn, dyfrllys trydwll, dyfrllys dail aflym a’r dyfrllys eiddil. Mae ochrau’r dŵr bas yn cynnig lloches i’r ysbigfrwynen un cibyn a’r beistonnell ferllyn, ac mae’r gors hesg yn cynnwys yr hesg yn bennaf. Mae’r trewyn hefyd yma ac mae’r llafnlys mawr sy’n anghyffredin yn lleol. Mae llyriad y dŵr bach a’r frwynen flodeuog hefyd yn blanhigion anghyffredin sydd i’w gweld ar lannau’r llyn. Mae llwybr cyhoeddus yn mynd o amgylch llyn (ac eithrio’r lan fwyaf deheuol) ac mae wedi’i gysylltu â llwybrau sy’n arwain i Rosneigr, ac i’r ardal i’r dwyrain o amgylch Llanfaelog. Ceir mynediad i Lwybr Arfordirol Môn o lwybr sydd ar ochr dde’r llyn drwy gysylltiad sy’n arwain drwy dwyni tywod Tywyn y Llyn. Mae Llyn Maelog yn anarferol am fod ganddo statws ‘Llain Pentref’. Fe’i dynodwyd yn 2011, a chredir ei fod yr unig lyn yng Nghymru sydd â statws o’r fath.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Ynys Môn

Mwynderau

  • Parcio ar gael.

gerllaw...