Natur Leol, Nant y Pandy Llangefni
Mae gwarchodfa natur goediog Nant y Pandy yn ffurfio rhan o ddyffryn yr Afon Cefni sy’n llifo drwy ganol tref Llangefni, tref sirol Môn.
Ceir mynediad rhwydd i Nant y Pandy o Langefni ac mae llwybr beicio Lôn Las Cefni yn mynd drwy’r warchodfa. Mae’r warchodfa yn lle braf i gerdded drwyddi ar hyd y llwybrau, llwybrau troed a llwybrau pren. Mae nifer o gerfluniau pren diddorol mewn gwahanol fannau yn y coetir.
Mae Nant y Pandy yn fan da i weld adar y coetir yn ogystal â rhai sy’n ffafrio cynefin afonol. Mae’r mathau o adar y coetir y gellir eu gweld yn cynnwys y gnocell fraith fwyaf, coch y berllan, y titw mawr, y robin goch a’r dryw bach. Yn nes at yr afon efallai y gallwch weld glas y dorlan gwibiog neu fronwen y dŵr yn siglo i fyny ac i lawr ar graig yn yr afon cyn plymio i’r dŵr i ddal larfa pryfetach dyfrol. Mae’r iâr ddŵr a’r hwyaden wyllt yn nythu ar yr afon a gwelir y crëyr glas, y fulfran a’r siglen lwyd yn aml.
Mae’r afon yn cynnal poblogaethau o frithyll, llyswennod a’r eog, ac mae un o’u prif ysglyfaethwyr, y dyfrgi yn aml yn chwilio’r ardal yn chwilio am ei ysglyfaeth. Mae’r warchodfa yn hafan i ystlumod a chofnodwyd rhywogaethau fel yr ystlum pedol lleiaf, yr ystlum barfog, yr ystlum hirglust ac ystlum Natterer. Mae planhigion nodweddiadol y coetir yn cynnwys clychau’r gog, llygad Ebrill a blodyn y gwynt gyda’r gellesg, gold y gors a’r erwain i’w gweld yn y mannau gwlypaf. Mae rhywogaethau o goed pwysicaf y coetir yn cynnwys y dderwen, yr onnen, pinwydden yr Alban, ffawydd a’r gastanwydden bêr. Mae hefyd dros 200 o rywogaethau o ffwng ac mae rhai ohonynt yn brin yn genedlaethol yng Nghymru.
Mae gwarchodfa natur goediog Nant y Pandy yn ffurfio rhan o ddyffryn yr Afon Cefni sy’n llifo drwy ganol tref Llangefni, tref sirol Môn.
Mae gwarchodfa natur goediog Nant y Pandy yn ffurfio rhan o ddyffryn yr Afon Cefni sy’n llifo drwy ganol tref Llangefni, tref sirol Môn. Ceir mynediad rhwydd i Nant y Pandy o Langefni ac mae llwybr beicio Lôn Las Cefni yn mynd drwy’r warchodfa. Mae’r warchodfa yn lle braf i gerdded drwyddi ar hyd y llwybrau, llwybrau troed a llwybrau pren. Mae nifer o gerfluniau pren diddorol mewn gwahanol fannau yn y coetir.
Mae Nant y Pandy yn fan da i weld adar y coetir yn ogystal â rhai sy’n ffafrio cynefin afonol. Mae’r mathau o adar y coetir y gellir eu gweld yn cynnwys y gnocell fraith fwyaf, coch y berllan, y titw mawr, y robin goch a’r dryw bach. Yn nes at yr afon efallai y gallwch weld glas y dorlan gwibiog neu fronwen y dŵr yn siglo i fyny ac i lawr ar graig yn yr afon cyn plymio i’r dŵr i ddal larfa pryfetach dyfrol. Mae’r iâr ddŵr a’r hwyaden wyllt yn nythu ar yr afon a gwelir y crëyr glas, y fulfran a’r siglen lwyd yn aml.
Mae’r afon yn cynnal poblogaethau o frithyll, llyswennod a’r eog, ac mae un o’u prif ysglyfaethwyr, y dyfrgi yn aml yn chwilio’r ardal yn chwilio am ei ysglyfaeth. Mae’r warchodfa yn hafan i ystlumod a chofnodwyd rhywogaethau fel yr ystlum pedol lleiaf, yr ystlum barfog, yr ystlum hirglust ac ystlum Natterer. Mae planhigion nodweddiadol y coetir yn cynnwys clychau’r gog, llygad Ebrill a blodyn y gwynt gyda’r gellesg, gold y gors a’r erwain i’w gweld yn y mannau gwlypaf. Mae rhywogaethau o goed pwysicaf y coetir yn cynnwys y dderwen, yr onnen, pinwydden yr Alban, ffawydd a’r gastanwydden bêr. Mae hefyd dros 200 o rywogaethau o ffwng ac mae rhai ohonynt yn brin yn genedlaethol yng Nghymru.
Am fwy o fanylion gwelwch safle we Cyngor Sir Ynys Môn.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dingle, Llangefni
Mwynderau
- Hygyrch i'r anabl.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Parcio ar gael.
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw