Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Golygfa o Goedwig Pentraeth ar ddiwrnod heulog

Traeth Coch a Coedwig Pentraeth

Golygfa o Goedwig Pentraeth ar ddiwrnod heulog

Mae Traeth Coch ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn ac yn draeth sy’n ymestyn tua 2.5 milltir rhwng Traeth Coch a Llanddona.

Mae Coedwig Llwydiarth ar ymyl ei ochr ddwyreiniol ac mae’n cynnig lle ardderchog lle gellir gweld ehangder y traeth hwn. O’r fan hon mae’n hawdd iawn gweld pam y dynodwyd y lle yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).  

Gellir gweld gwiwerod coch yma a’r goedwig hon oedd eu lloches olaf ym Môn tan yr ailgyflwyno diweddar.  Tra mae’r môr ar drai ewch yn nes at y traeth a gallwch weld olion tywodlyd, torchog yr abwyd du a thystiolaeth o wahanol gregyn sy’n gwneud y traeth hwn yn fan bwydo delfrydol ar gyfer amrywiaeth o rydwyr gan gynnwys y gylfinir, pioden y môr, pibydd coesgoch, y cwtiaid, pibyddion a phibydd y mawn.  Gellir gweld nifer o adar hela eraill yma’n gyson gan gynnwys gwyddau duon yn ystod misoedd y gaeaf.  Ambell dro ceir tystiolaeth o ddyfrgwn ble mae’r Afon Nodwydd yn llifo i’r môr o Bentraeth.  Daeth Castell Mawr, sef tŵr enfawr o galchfaen ar y lan ogleddol yn lloches i amrywiaeth o wylanod tra mae Bwrdd Arthur, llwyfandir calchfaen i’r de, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Dynodwyd y fan hon am ei fflora carreg galch unigryw sy’n cynnwys y cor-rosyn lledlwyd a’r gorfanhadlen eiddew.

Tirwedd

Roedd Traeth Coch, sydd ar arfordir dwyreiniol Môn rhwng pentrefi Pentraeth a Benllech, yn borthladd pwysig ar un adeg. Mae’r traeth tywodlyd yn ymestyn am tua 2.5 milltir o Gastell Mawr, tŵr anferth o garreg galch ar lan ogleddol y bae, tuag at lwyfandir carreg galch yn y de a elwir yn Fwrdd Arthur.

Mae Coedwig Llwydiarth yn ffinio’r bae ar ei ochr dwyreiniol. Wedi ei phlannu ar Fynydd Llwydiarth yn 1950au mae’r goedwig yn cynnig llecyn manteisiol ardderchog ble gallwch edmygu ehangder helaeth Traeth Coch yn enwedig ar lanw isel pan ddatguddir ryw 10 milltir sgwâr o dywod. Ewch am dro’n dawel drwy’r goedwig ac efallai y clywch balfalu crafangau a chael cipolwg ar gynffon drwchus goch yn diflannu y tu ôl i foncyff, gan mai yma roedd lloches olaf y wiwer goch ym Môn tan iddynt gael eu hailgyflwyno yn ddiweddar. Tra mae’r môr ar drai edrychwch yn agosach ar y traeth ac mi fyddwch yn deall pam fod amrywiaeth o rydwyr yn mwynhau’r ardal. Mae olion torchog llyngyr y traeth yn amlwg cyn belled ag a wêl y llygad mewn rhai mannau, a phantiau yn y tywod yw’r unig dystiolaeth o’r gwahanol gregyn bylchog sy’n llechu dan wyneb y tywod. Mae’r pentref sydd ar ochr orllewinol y bae hefyd yn cael ei alw’n Traeth Coch. Cysylltir â Phentraeth drwy Lwybr Arfordirol Môn ac mae’n cynnig lle cyfleus i gael tamaid i’w fwyta a mwynhau'r golygfeydd syfrdanol dros y bae tuag at Goedwig Llwydiarth a Bwrdd Arthur.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Traeth Coch

Mwynderau

  • Croeso i gŵn.
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Parcio ar gael.

gerllaw...