Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Un o dyrau Castell mwnt a beili Aberlleiniog gydag agoriad ffenestr a thyredau ac awyr las uwchben

Castell Aberlleiniog

Un o dyrau Castell mwnt a beili Aberlleiniog gydag agoriad ffenestr a thyredau ac awyr las uwchben

Fel llawer o safleoedd ar Fôn, mae Aberlleiniog yn drysor cudd. Mae'n cyfuno hanes hynod ddiddorol gyda harddwch naturiol - a heb y torfeydd

Mae Castell Aberlleiniog yn Heneb Gofrestredig cymharol anadnabyddus ger Penmon.

Mae wedi’i leoli yng nghanol coedwig dawel sy’n warchodfa natur, gerllaw glannau culfor hyfryd y Fenai, sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.

Menter Môn, sef Asiantaeth Fenter a Datblygu Gwledig Ynys Môn, yw perchnogion y castell. Mae’n cael ei reoli gan grŵp llywio o gynrychiolwyr lleol.

Mae blaenoriaethau rheoli’r safle yn cynnwys yr hyn sydd o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol, gwarchod natur a mynediad i’r cyhoedd.

Mae amgylchedd naturiol a hanes unigryw Castell Aberlleiniog yn ei wneud yn wahanol i unrhyw heneb gofrestredig arall.

Mae ei stori swynol yn llawn cymeriadau lliwgar, gan gynnwys rhai o dywysogion Cymru, mechdeyrnedd Normanaidd, ysbeilwyr Llychlynnaidd, bradwyr, môr-ladron, cadlywyddion y Rhyfel Cartref, perchnogion stadau cyfoethog a naturiaethwyr Sioraidd. Mae rhywbeth i gipio dychymyg pawb i’w gael yma.

Mae Aberlleiniog wir yn gastell ‘dirgel’, gyda nifer o gyfrinachau eto i’w darganfod!

Mae’r castell yn agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim drwy’r flwyddyn.

Rhanbarth

Mynediad

Mynediad am ddim

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Castell Aberlleiniog. Côd post agosaf: LL58 8RY

Mwynderau

  • Croeso i gŵn.
  • Parcio ar gael.

gerllaw...