Llys Biwmares
Mae Llys Biwmares yn un o adeiladau mwyaf diddorol Ynys Môn ac yn un o'r llysoedd hynaf ym Mhrydain.
Mae'r Llys yn 400 oed. Er iddo gael ei addasu yn yr 19eg ganrif, mae cymeriad hanfodol y llys yr un fath. Heddiw cynhelir achosion yma unwaith y flwyddyn.
Ar hyd y canrifoedd mae'r llys hwn wedi gweld pob math o achosion o flaen y fainc, yn amrywio o fan droseddau i lofruddiaeth.
1768 - Dygodd Hugh Hughes wyth caws a chwarter o gig eidion. Fe'i chwipwyd yn gyhoeddys mewn pedair tref ar yr ynys.
1910 - Dedfrydwyd William Murphy i farwolaeth am iddo ladd ei gariad ar Ddydd Nadolig. Cafodd ei grogi yng Nghaernarfon.
Mae'r Llys yn fan sydd hyd heddiw yn eich gorfodi bron i sefyll ar eich traed a datgan yn uchel "dieuog!"
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Rhif ffôn: 01248 810921
Cyfeiriad
Castle Street Biwmares LL58 8BP
Mwynderau
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw