Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

 Y bae ym Moelfre wedi'i amgylchynu gan dai ar y clogwyni

Llwybr Arfordirol: Moelfre i Pentraeth

 Y bae ym Moelfre wedi'i amgylchynu gan dai ar y clogwyni

Disgrifiad llwybr a lawrlwythiad map ar gyfer rhan 5 o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Mae'r disgrifiad o'r llwybr wedi'i gynnwys isod a gellir hefyd ei lawrlwytho fel ffeil i'w storio ar eich dyfais pan fyddwch allan ar y daith. 

Disgrifiad o'r llwybr

Cerddwch i fyny’r allt o Borth Moelfre, heibio angor y ‘Hindlea ’ ddrylliedig. Yn union gyferbyn â Phantri Ann, ewch i’r chwith dros gamfa gerrig wrth giât a’r tŷ o’r enw Craig y Môr.

Ewch o flaen y tŷ gwyn, Dal ar Gam, ac ewch i’r chwith i lawr llethr drwy giât mochyn ar hyd llwybr caeedig. Ar ôl set o risiau a dau lwybr bordiau, ewch i lawr i’r lan ym Mhorth yr Aber, ar hyd pen uchaf y traeth, ac ewch i’r dde i fyny llwybr at lôn. Trowch i’r chwith ac ewch heibio cytiau fferm Nant Bychan.

Ewch heibio’r tŷ, drwy giât y fferm o’ch blaen ac ar hyd trac caeedig. Ewch drwy giât mochyn ac ymunwch â llwybr cerrig wedi’i bitsio am ryw 200 medr. Ewch drwy giât mochyn arall ac allan i gae. Ewch i’r dde, gan ddilyn y gwrych ar y dde i chi. Pasiwch drwy giât arall gan anelu i lawr y cae yn dilyn y gwrych ar y chwith i chi tuag at barc carafannau. Ewch drwy giât i ddod allan ar lôn. Trowch i’r chwith i lawr i’r traeth. Pan fo’r llanw allan yn unig, croeswch draeth tywodlyd Traeth Bychan i ymuno â thraeth graeanog (‘shingle’) yn ei ben deheuol.

Fel arall, pan mae’r llanw i mewn, trowch i’r dde ac ewch i fyny’r ffordd rhyw ychydig ac yna trowch i’r chwith i faes parcio’r traeth. Croeswch y maes parcio drwy gerdded ar y glaswellt ar yr ochr chwith sy’n arwain at risiau pren. Dringwch i’r top ac ewch drwy giât mochyn bren. Ewch i’r chwith a dilynwch y gwrych i ben y cae hwn a thros bont bren a thrwy giât. Ewch yn syth ar draws y trydydd cae i giât mochyn arall ar dop set o risiau pren sy’n arwain i’r traeth graeanog y tu ôl i Draeth Bychan.

O’r lan raeanog ym mhen pellaf y bae, trowch i’r dde i fyny set o risiau, ac ar y top ewch i’r chwith. Dilynwch drac heibio’r t^y gwyn mawr, Dinas, ar y chwith i chi, drwy giât, a throwch i’r chwith mewn cyffordd. Ewch heibio dwy garej, drwy giât, ac ar hyd llwybr i ymuno â lôn ag wyneb arni. Ewch i’r chwith, a chan basio parc carafannau arall, dilynwch nant ar y dde i chi. Lle mae’r trac yn rhannu, ewch i’r dde i fyny’r rhiw (mae’r ffordd chwith yn mynd i lawr llithrfa (‘slipway’) i’r môr), ac yn fuan wedyn ewch i’r chwith oddi ar y trac ar hyd ymyl y cae heibio nifer o siales gwyliau. Dilynwch derfyn ochr chwith y cae o gwmpas trwyn Penrhyn.

Gan ymuno â llwybr caeedig, ewch drwy giât mochyn, i lawr ac i fyny dwy res o risiau, dros ddwy bompren fechan, i fyny set o risiau a heibio’r tu cefn i Nyth y Wylan ym Mhorthwen. Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr caeedig, heibio’r ogofau calchfaen (limestone), ac mae’r llwybr yn agor allan am ychydig. Pasiwch barc carafannau ar y dde i chi, a phlatfform calchfaen, gan anwybyddu’r grisiau i fynd i lawr arno. Gan fynd yn syth yn eich blaen, ewch i lawr ar y creigiau ar hyd y lan ac i’r dde rownd caffi Benllech Isaf i ymuno â’r ffordd. Trowch i’r chwith.

Cerddwch ar hyd glan y môr ym Menllech, heibio caffi Wendon ac i fyny’r allt. Mewn byr o dro, trowch i’r chwith i fyny trac ag wyneb arno, drwy giât sy’n addas i gadeiriau olwyn fynd drwyddi. Dilynwch y llwybr sydd i’w weld yn glir rownd cefn Traeth Benllech, gan wau drwy goetir i gyrraedd Parc Carafannau St David’s. O gyffordd yn y llwybrau, trowch i’r dde (mae’r ffordd chwith ym mynd i’r traeth), ac fe ddowch allan yn y Parc Carafannau. Anwybyddwch droad i’r chwith (onid ydych eisiau rhywbeth i’w fwyta neu yfed!) a chariwch ymlaen heibio ffoledd (‘folly’) ar y dde i chi, gan ddilyn llwybr heibio nifer o siales ar y chwith i chi. Fe ddowch allan ar drac. Cariwch yn syth ymlaen.

Dilynwch lwybr sy’n gyfochrog â’r lôn darmac am dipyn cyn dod allan arno. Trowch i’r dde, ac yna’n fuan iawn trowch i’r chwith i lawr trac caeedig. O giât, ewch i’r dde, a dilynwch y trac caeedig. Ewch i’r chwith heibio tŷ gwyn ar y dde i chi, gan anelu tuag at y môr o’ch blaen. Fe ddowch allan mewn lle parcio y tu ôl i’r tŷ cerrig mawr ‘Seagarth. Ewch i’r dde gan ddilyn y lôn sy’n arwain at ffordd ar hyd glan y môr, ac sy’n torri i’r chwith heibio’r meinciau drwy lecyn glaswelltog. Ewch heibio’r lôn sy’n arwain i’r dde, drwy’r maes parcio a heibio’r ‘Old Boathouse Inn. Gan gerdded heibio’r ‘Ship Inn’, gyda’i ardd gwrw ar y chwith i chi, ynghyd â thoiledau cyhoeddus, ymunwch â llwybr wedi’i ffensio ar hyd ymyl caeau wrth lecyn o goetir. Ewch drwy ddwy giât mochyn, cerddwch set o risiau cerrig, drwy giât arall, a chan droi oddi wrth y môr, ymunwch â darn graeanog i ddod allan drwy giât ar lôn. Trowch i’r chwith i lawr i’r lan yn Nhraeth Coch.

Pasiwch Borth Llongdy Uchaf a Glan Y Môr i fynd ar y lan. Ewch i’r dde, a dilynwch ben uchaf traethlin (‘shoreline’), gan groesi ffos. Fe fyddwch yn ymuno â thrac garw, pasiwch lôn sy’n mynd i lawr i’r lan, a heibio bwthyn brown ar y dde i chi. Ewch heibio Tal Gwyn a ‘The Old Yard ’ wrth lôn arall sy’n mynd i lawr i’r lan, ac ewch ymlaen ar hyd y trac garw. Pasiwch nifer o fythynnod gwyn ar hyd y lan, heibio Pen y Lôn, lle mae trac yn dod allan (llwybr sy’n arwain i Bentraeth). Mae’r trac yn gwella, ac fe ewch dros bont dros Afon Nodwydd, i ymuno â thrac tarmac.

Yn y gyffordd ‘T’ ar y lôn, trowch i’r chwith tuag at y traeth. Ewch dros bont arall i gyrraedd y lan unwaith eto yn Nhraeth Coch.

Rhanbarth

Mynediad

Mynediad am ddim

Parcio

Parcio am ddim

Manylion Cyswllt


Cyfeiriad

Moelfre

Ymweld a'r wefan

https://www.walescoastpath.gov.uk

Mwynderau

  • Caffi.
  • Croeso i goetsys.
  • Croeso i gŵn.
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Parcio ar gael.
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw

gerllaw...