Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Arwydd glas yn arwain at y Llys, a Canolfan Biwmares

Llwybr Arfordirol: Pentraeth i Biwmares

Arwydd glas yn arwain at y Llys, a Canolfan Biwmares

Disgrifiad llwybr a lawrlwythiad map ar gyfer rhan 6 o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Mae'r disgrifiad o'r llwybr wedi'i gynnwys isod a gellir hefyd ei lawrlwytho fel ffeil i'w storio ar eich dyfais pan fyddwch allan ar y daith.

Disgrifiad o'r llwybr

Ar ôl gadael y lôn i Draeth Coch ewch i’r dde drwy’r maes parcio anffurfiol.

Dilynwch lwybr ar hyd ymyl y llecyn o dyfiant, gan anelu tuag at y mast ar y bryn yn Llanddona o’ch blaen. Fe fyddwch yn ymuno â thrac, gan basio mynedfeydd i dai ar hyd y lan.
Croeswch ffos ddraenio. Ewch yn eich blaen ac fe basiwch gaban, Ger Y Môr, a lôn sy’n dod allan i’r traeth.

Ewch yn eich blaen ar hyd y lan drwy lecyn o frwyn, ac i fyny ychydig o risiau i fynd ar forglawdd cul. Dilynwch y morglawdd am 500 medr, ac yna i lawr ychydig o risiau dros wal fechan gan barhau ar hyd ymyl y traeth. Ewch i’r chwith rhyw ychydig i gyfeiriad y môr, croeswch ffos ddraenio ac fe ddowch allan ar drac wrth Glan Halen.

Croeswch y trac ac, yn fuan, fe ymunwch a lôn. Trowch i’r chwith a dilynwch y lôn heibio’r maes parcio, y toiledau a’r caffi, ac yn union ar ôl t^y’r Hen Felin ar y dde i chi, ewch i’r chwith i fynd ar y lan. Ewch dros y bompren fechan, a chan ddilyn y lan ewch i’r dde i fyny rhes o risiau i fyny i gae drwy giât mochyn.

Ewch i’r chwith o gwmpas ymyl y cae, drwy dwy giât mochyn, ac yna drwy giât fechan wrth Godreddi Mawr.

Trowch i’r dde wrth y tŷ ac ewch i fyny’r lôn, yna wrth y cornel, ewch drwy giat fochyn ar y chwith. Dilynwch ymyl y cae, dros pont fechan a thrwy giat fochyn arall. Ewch mymryn i’r dde ac yna dilyn ochr chwith cae, a thrwy giat i goedlan cyll fechan nes cyrraedd giat fochyn arall. Ewch i fyny’r grisiau nes cyrraedd trac amlwg ac yna ewch i’r chwith. Wrth nesau at eiddo o’r enw Ffynnon Oer, mae giat mochyn i’r dde i mewn i’r caeau. Dilynwch ymylon nifer o gaeau trwy cyfres o giatiau mochyn, caeau uwchben Chwarel Tan Dinas.

Ar ôl cyfnod byddwch yn cael eich arwain i lawr a nol i fyny trac, i gaeau mwy agored. Wrth gyrraedd giat fochyn mewn ffens, rydych rwan yn cyrraedd tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Fedw Fawr. Dilynwch yr arwyddion ar hyd yr arfordir, byddwch yn fuan yn cael eich arwain fyny at drac. Yma, croeswch a dilynwch yr arwyddion i fyny’r allt trwy’r rhostir i ffeindio rhan bach gwyneb cerrig trwy coedlan. Mae hwn yn arwain at drac heibio Gwelfor ac allan i’r lôn.

Ewch i’r chwith, ac yna ar gyffordd, trowch i’r chwith. Gan basio Coed Cywydd ar y chwith i chi, ewch ymlaen i lawr y lôn, heibio’r lôn at ‘White Beach’. Gyferbyn â bwthyn, trowch i’r chwith i fyny drwy giât mochyn i fyny’r lôn at Tros y Marian. Yn fuan, fe fyddwch yn mynd i’r dde dros gamfa gerrig i mewn i gae. Cariwch yn syth ymlaen gan ddilyn y wal gerrig ar y dde i chi i fyny’r cae at giât mochyn. Croeswch drac ac ewch ymlaen tuag at y tai. Lle mae’r ffordd fynediad yn rhannu, ewch i’r chwith, a lle mae’n rhannu eto, ewch i’r chwith eto yn Bryn Eryn, ac ar ôl cyrraedd y cilbost gwyn yn Gwêl yr Ynys, ewch i’r chwith unwaith eto ar lwybr wedi’i ffensio.

Ewch drwy giât, ewch i’r chwith o gwmpas gardd, gan fynd tua’r chwith eto drwy giât, i lawr ychydig o risiau, a throwch i’r dde i lawr trac. Ar ôl dod allan i lôn, trowch i’r chwith. Ewch heibio t gwyn drwy giât, a chan ddod allan i gae, ewch yn syth yn eich blaen gan ddilyn gwrych mawr ar yr ochr dde i chi. Ewch drwy giât, y tro hwn yn dilyn y gwrych ar y chwith i chi, i ddod allan drwy giât i’r dde o Cerrig Duon. Trowch i’r chwith a bron ar eich union i’r dde drwy giât mochyn i mewn i gae. Dilynwch y gwrych ar y dde i chi, drwy ddwy giât, ac fe ymunwch â thrac â gwrych o bobtu iddo i ddod allan wrth dŷ. Trowch i’r dde, ewch ar hyd y lôn heibio dau dŷ, ac o gyffordd gyda lôn trowch i’r chwith. Ewch ar hyd y lôn, a lle mae’r lôn yn rhannu wrth yr arwydd am Benmon, ewch i’r chwith.

Ewch heibio gorsaf bwmpio dŵr, ac ar ben y lôn wrth fwthyn ewch drwy giât mochyn y tu ôl i wal fawr. Dilynwch wal fawr y parc ceirw ar y dde i chi. Ewch drwy borth ac yn eich blaen i lawr y cae gyda’r wal yn dal i fod ar y dde i chi. Ewch drwy giât arall ac ewch i’r dde ar draws cae. Ewch drwy giât arall a throwch i’r chwith i lawr y cae. Ewch drwy giât i lôn, trowch i’r dde, ac yna’n fuan i’r chwith drwy fwlch i mewn i gae. Ewch drwy giât mochyn arall i drac caeedig a dilynwch y llwybr diffiniedig i lawr tuag at y Trwyn Du (‘Penmon Point’). Ar ôl mynd i lawr ac i fyny set o risiau, trowch i’r chwith ar ael y bryn i lawr tuag at y môr.

Ar ôl cyrraedd y clogwyn, trowch i’r dde a dilynwch lwybr i ddod allan yn y Trwyn. Ar ôl ymuno â lôn darmac, trowch i’r dde. Fe gyrhaeddwch Briordy a Cholomendy Penmon. Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd am oddeutu 1.5 cilomedr, ac ar ôl y tro yn y ffordd i’r dde, cyn ychydig o fythynnod, ewch i’r chwith i fynd i lawr ar y traeth. Ewch heibio cwt cwch, dros lanfa sydd wedi torri, ac i fyny set o risiau ar y dde i chi.

Ar ôl dod i lôn wrth y t^y o’r enw Cerrig trowch i’r chwith, heibio maes parcio Aberlleiniog, ac ewch oddi ar y lôn wrth gilfan i lwybr, gan fynd yn syth yn eich blaen. Ewch dros bont, i lawr ychydig o risiau, ac ar y traeth. Ewch yn syth ymlaen ar hyd y traeth graeanog am 1500 medr. Ar ôl mynd heibio cyfres o grwyn (‘groynes’) concrid trowch i’r dde, yn union cyn cyrraedd nant, i ymuno â llwybr i’r ffordd. Yn y ffordd, trowch i’r chwith.

Dilynwch y ffordd, gan ymuno â’r palmant. Pasiwch y troad i Lanfaes, ewch ymlaen gyn belled â’r bwlch yn y wal ar y chwith i chi. Ewch drwyddo, trowch i’r dde i fyny’r grisiau, a dilynwch y llwybr i mewn i’r cae drwy’r giât. Dilynwch yr arfordir, gan fynd i lawr y cae tuag at Fiwmares. Pasiwch yr hen bwll nofio i lawr ar y chwith i chi, ac yna pasiwch drwy’r giatiau allan i ffordd.

Ewch yn syth yn eich blaen i fynd ar y promenâd. Yn union cyn y Pier â Gorsaf y Bad Achub, trowch i’r dde i lawr ffordd i gerddwyr i fynd i Stryd Alma wrth Westy’r Bulkeley. Trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd i ymuno â’r brif ffordd drwy Fiwmares.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion Cyswllt


Cyfeiriad

Biwmares

Ymweld a'r wefan

https://www.walescoastpath.gov.uk/?lang=cy

Mwynderau

  • Caffi.
  • Taliadau cerdyn.
  • Croeso i goetsys.
  • Croeso i gŵn.
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Parcio ar gael.
  • Lluniaeth
  • Toiledau
  • Siop
  • Bwyty

gerllaw...