Carchar Biwmares
Mae Carchar Biwmares yn llawn atgofion a chyfrinachau sy'n rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar fyd y carcharor yn ystod y 1800au.
Cerddwch ar hyd y cynteddau tywyll i weld y celloedd moel a digroeso a mannau cosbi. Ymwelwch a chell y condemniedig a phrofi tywyllwch y gell gosb.
Yn 1862 dienyddiwyd Richard Rowlands am lofruddio ei dad-yng-nghyfraith. Haerai Rowlands ei fod yn ddi-euog, ac yn ôl y traddodiad lleol fe felltithiodd y cloc yn nhŵr yr eglwys gyferbyn â'r grocbren.
Nid yw'r cloc wedi cadw at ei amser ers hynny.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Rhif ffôn: 01248 810921
Cyfeiriad
Steeple Lane Biwmares LL58 8EP
Mwynderau
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
- Siop
- Toiledau